Tom Dice

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tom Dice
Tom Dice (cropped).jpg
Tom Dice yn Oslo (2010)
Gwybodaeth gefndirol
Enw genedigol Tom Dice
Ganwyd 25 Tachwedd 1989
Man geni Baner Gwlad Belg Gwlad Belg, Eeklo
Cerddoriaeth Pop, Acwstig
Galwedigaeth(au) Canwr
Offeryn(au) cerdd Llais
Blynyddoedd 2008—presennol
Label(i) recordio SonicAngel
Cysylltiedig The Dice
Gwefan Tom Dice

Canwr Belgaidd yw Tom Dice (ganwyd Tom Eeckhout). Enillodd fe'r ail safle ar fersiwn Fflemeg The X Factor yn 2008. Cynrychiolodd Dice ei famwlad yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2010.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Dysgodd Dice i chwarae'r gitâr pan oedd e'n blentyn, ac ysgrifennodd ganeuon ei hun cyn ymuno â'r grŵp The Dice, Tom Eeckhout Dice oedd ei enw llwyfan. Ym 2008, cystadlodd Dice yn yr X Factor Fflandrys a, gyda'i hyfforddwr Maurice Engelen, daeth e'n ail yn y gystadleuaeth. Ar ôl X Factor, ymunodd Dice â'r label recordio SonicAngel, yr artist cyntaf y label, ac o dan ei enw llwyfan, Tom Dice, rhyddhaodd ei sengl gyntaf sydd yn fersiwn acwstig o "Bleeding Love" gan Leona Lewis. Enillodd y sengl safle 7 yn y siart Fflandrys ac arhosodd y gân yn y siart am 14 wythnos. Rhyddhaodd Dice ei albwm cyntaf, Teardrops, ar 30 Ebrill 2010.

Eurovision 2010[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 25 Tachwedd 2009, dewiswyd Dice gan ddarlledwr Fflemeg Vlaamse Radio - en Televisieomroep (VRT) i gynrychioli Gwlad Belg yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2010 yn Oslo, Norwy. Roedd ymateb cymysg yng Ngwlad Belg i'r dewis oherwydd oedd y dewis yn fewnol.[1]

Cyhoeddwyd y gân i Eurovision Tom Dice, "Me and My Guitar", ar 7 Mawrth 2010, ysgrifenodd Ashley Hicklin, Jeroen Swinnen a Dice y gân. Enillodd y gân rhif un yng Ngwlad Belg, yn y siart iTunes ac yn y siart swyddogol.[2] Perfformiodd Dice yn y rownd gynderfynol cyntaf yn Oslo ar 25 Mai 2010. Enillodd y rownd ac aeth ymlaen i'r rownd derfynol, yr artist cyntaf o Wlad Belg i wneud hyn ers Eurovision 2004. Gorffennodd Dice gyda safle chweched, un o'r lleoliadau golau Gwlad Belg yn y gystadleuaeth.

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Albymau[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwyddyn Albwm Lleoliadau siart
BEL
(FFLA)
BEL
(WAL)
2010 Teardrops[3]
  • Rhyddhawyd: Ebrill 30, 2010
  • Genre: Pop
  • Label: SonicAngel
  • Fformat: CD, Digidol
13

Senglau[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwyddyn Sengl Lleoliadau siart[4] Albwm
BEL
(FLA)
BEL
(WAL)
2009 "Bleeding Love"[5] 7 Teardrops
2010 "Me and My Guitar"[6] 1 18

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]