Neidio i'r cynnwys

Tiwlips (drama)

Oddi ar Wicipedia
Tiwlips
Poster Cwmni Theatr Gwynedd o'r ddrama yn 2000
Enghraifft o:drama lwyfan Gymraeg
Dyddiad1999 Edit this on Wikidata
Dyddiad cynharaf1999
AwdurAled Jones Williams
IaithCymraeg
Cysylltir gydaCwmni Theatr Gwynedd Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Drama Gymraeg yw Tiwlips gan Aled Jones Williams. Perfformiwyd y ddrama am y tro cyntaf yn 2000 gan Gwmni Theatr Gwynedd.

Disgrifiad byr

[golygu | golygu cod]

"Trwy gyfrwng atgofion toredig a dihangfa ffantasiol, mae drama rymus Aled Jones Williams yn codi'r caead ar fyd arswydus camdrin plant".[1]

"Croeso i fyd Patric. Mae Patric yn hogyn bach yn ei bedwar-degau. Mae gan Patric stori - ond mae'n gyfrinach. Stori am ei fam a'i Yncl Jo ydi hi, a'r holl bethau 'roeddan nhw'n wneud pan oedd o'n fach. Mae'n stori drist ac weithiau yn stori ddigri, er ei bod hi'n stori ddychryn hefyd."[1]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Patric
  • Mam Patric
  • Yncl Jo

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Gwynedd yn 2000. Cyfarwyddwyd gan Sian Summers a’r actorion oedd Maldwyn John, Valmai Jones a Merfyn Pierce Jones.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 Cwmni Theatr Gwynedd (2000). Taflen hysbysebu y cynhyrchiad.

Tri Dramodydd Cyfoes: Meic Povey, Siôn Eirian ac Aled Jones Williams Archifwyd 2022-09-15 yn y Peiriant Wayback – Traethawd doethuriaeth Manon Wyn Williams, Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor Hydref 2015

Eginyn erthygl sydd uchod am ddrama. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.