Titw penddu

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Titw Penddu)
Titw penddu
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Paridae
Genws: Periparus
Rhywogaeth: P. ater
Enw deuenwol
Periparus ater
(Linnaeus, 1758)
Cyfystyron

Parus ater

Periparus ater

Mae'r Titw penddu (Periparus ater) yn aelod o deulu'r Paridae, y titwod. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gogledd Asia.

Mae'r Titw penddu yn llai na'r rhan fwyaf o'r titwod eraill, 10 - 11.5 cm o hyd. Gellir ei adnabod trwy ei faint a'r darn gwyn ar y gwegil gyda'r pen a'r gwddf yn ddu. Mae'n wyn oddi tano ac mae dwy linell wen ar draws yr adenydd. Mae yr adar ieuanc yn felyn lle mae'r oedolion yn wyn.

Mae nifer o is-rywogaethau:

  • P. a. ater yn y rhan fwyaf o Ewrop, gyda chefn llwydlas
  • P. a. britannicus ym Mhrydain, gyda chefn brown
  • P. a. ledouci yng Ngogledd Affrica sy'n felyn oddi tano yn lle gwyn
  • P. a. cypriotes ar ynys Cyprus, sy'n frowngoch oddi tano

O ran ei fwyd a'i arferion nythu mae'n bur debyg i'r titwod eraill, ond mae'n hoffi coed pinwydd yn fwy na'r titwod eraill. Mae'n nythu mewn tyllau mewn coed, er ei fod hefyd yn barod i ddefnyddio blychau nythu ar adegau. Yn y gaeaf mae'n ffurfio heidiau gyda thitwod eraill megis y Titw mawr a'r Titw tomos las. Mae hefyd yn aderyn cyffredin mewn gerddi.