Tirlithriadau Sierra Leone, 2017
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | Llifogydd, tirlithriad ![]() |
---|---|
Dyddiad | 14 Awst 2017 ![]() |
Lladdwyd | 312 ![]() |
Dechreuwyd | 14 Awst 2017 ![]() |
Lleoliad | Freetown ![]() |
![]() | |
![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d9/Sierra_Leone_-_Western_Area.svg/220px-Sierra_Leone_-_Western_Area.svg.png)
Cyfres o lifogydd dinistriol o ganlyniad i dridiau o law trwm oedd achos tirlithriadau yn Sierra Leone ar fore 14 Awst 2017. Cwympodd dir lleidiog yn y brifddinas Freetown a'r cyrion yn Ardal y Gorllewin, gan chwalu rhai adeiladau a gorchuddio eraill. Llithrodd y mwd yn oriau mân y bore, ac felly cafodd nifer o bobl eu dal yn eu tai tra'n cysgu. Un o'r ardaloedd i gael eu taro waethaf oedd Regent, maestref fynyddig i'r dwyrain o Freetown, pan ddymchwelodd y bryniau o'i chwmpas.
Erbyn diwedd yr wythnos, cyfrifwyd o leiaf 400 o farwolaethau, ac hyd at 600 yn dal ar goll.[1] Collodd mwy na 3000 o bobl eu cartrefi, a chafodd cannoedd o adeiladau eu difrodi neu eu difetha'n llwyr. Wrth i'r glaw barhau bu pryder am dirlithriad arall, a gorchmynodd y llywodraeth i drigolion un llethr o gwmpas Freetown i adael eu cartrefi.
Digwyddodd y drychineb yn ystod tymor glawogydd arbennig o wlyb, a gwnaed yn waeth gan uchder tir isel yr ardal ac isadeiledd gwael, yn enwedig y carthffosydd. Cafodd rhai o'r cyrff eu llusgo i ganol y môr oddi ar arfordir y wlad.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Dros 400 wedi marw yn nhirlithriadau Sierra Leone, Golwg360 (19 Awst 2017). Adalwyd ar 19 Awst 2017.
- ↑ Tirlithriad a llifogydd Sierra Leone: mwy na 300 o bobol wedi marw, Golwg360 (16 Awst 2017). Adalwyd ar 19 Awst 2017.