Tiffany Atkinson

Oddi ar Wicipedia
Tiffany Atkinson
Ganwyd1972 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Mae Tiffany Atkinson (ganwyd 1972) yn fardd Prydeinig arobryn. Ym 1993 symudodd i Gymru lle, ar ôl cwblhau ei hastudiaethau yng Nghaerdydd, daeth yn ddarlithydd mewn Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn 2014, fe'i penodwyd yn Athro Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol East Anglia[1][2]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganed Atkinson ym Merlin, Yr Almaen, i deulu milwrol, cafodd ei magu yn yr Almaen, Ciprys a Lloegr. Ar ôl graddio mewn Saesneg ym Mhrifysgol Birmingham ym 1993, symudodd i Gymru lle enillodd PhD mewn damcaniaeth feirniadol o Brifysgol Caerdydd.

Gyrfa academaidd[golygu | golygu cod]

Bu Atkinson yn cynnal gweithdai a seminarau academaidd yn nwyrain Ewrop ar ran y Cyngor Prydeinig. Daeth yn Uwch-ddarlithydd mewn Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth wrth ymgymryd ag ymchwil i ddamcaniaethau o'r corff a hanes anatomeg, llenyddiaeth gyfoes a barddoniaeth. Arhosodd yn Aberystwyth hyd 2014 pan symudodd i Brifysgol East Anglia yn Athro Ysgrifennu Creadigol[3].

Gyrfa lenyddol[golygu | golygu cod]

Ym 1993 ac eto ym 1994, enillodd cystadleuaeth Bardd Ifanc y Flwyddyn gwasanaethau Radio'r BBC. Enillodd Wobr Barddoniaeth Ottakar’s and Faber yn 2000. Hi oedd enillydd Cystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Caerdydd yr Academi Gymreig yn 2001 gyda'i gerdd Photo from Belfast Archifwyd 2016-04-15 yn y Peiriant Wayback. sy'n sôn am adnabyddiaeth fer yr awdur o ddyn ifanc o'r enw Michael dros beint mewn tafarn ar Ffordd y Frenhines, Belffast yn fuan cyn i'r bachgen cael ei ladd gan fôm gar.[2]

Mae Atkinson wedi cyhoeddi tair cyfrol o farddoniaeth:

  • Kink and Particle (2006), a chafodd argymhelliad gan The Poetry Book Society ac a enillodd Wobr Jerwood Aldeburgh am gasgliad cyntaf[4]
  • Catulla et al (2011), a gyrhaeddodd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn[5]
  • So Many Moving Parts (2014) a oedd hefyd yn argymhelliad The Poetry Book Society[6][7]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]