Thien Duong
Gwedd
Math | ogof, ogof i ymwelwyr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Fietnam |
Cyfesurynnau | 17.51951°N 106.22297°E |
Mae Thien Duong (Fietnameg: Hang Thiên Đường) yn ogof yn Fietnam, ym Mharc Cenedlaethol Phong Nha-Ke Bang. Mae'n Safle Treftadaeth y Byd ar restr UNESCO. Fe'i lleolir tua 500 km i'r de o Hanoi yn ardaloedd Bố Trạch a Minh Hóa yn nhalaith Quảng Bình (rhanbarth Bắc Trung Bộ) ar arfordir canolbarth Fietnam. Mae'r ardal yn adnabyddus am ei ogofâu niferus a'i ecoleg unigryw.
Cafodd ei darganfod yn 2005 gan ddyn lleol a'i archwilio gan wyddonwyr o gwledydd Prydain rhwng 2005 a 2010. Mae hyd yr ogof yn 31 kilometr sy'n ei gwneud yr ogof hiraf yn Asia. Mae'r ogof ar agor ar gyfer ymwelwyr ar 3 Medi 2010.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Thien Duong Cave Archifwyd 2017-08-11 yn y Peiriant Wayback