Theatr Colwyn

Oddi ar Wicipedia
Theatr Colwyn
Maththeatr, sinema Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBae Colwyn Edit this on Wikidata
SirConwy
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.293928°N 3.725017°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH851788 Edit this on Wikidata
Map

Theatr a sinema yn nhref Bae Colwyn, Sir Conwy yw Theatr Colwyn. Dyma'r sinema hynaf yng ngwledydd Prydain sy'n dal i weithredu. Fe'i lleolir yng nghanol Bae Colwyn, ar Ffordd Abergele. Y perchnogion er 2000 yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac mae'n cael ei rhedeg fel theatr ar gyfer y gymuned gyfan.

Codwyd adeilad y theatr yn 1885 ac fe'i defnyddid fel "Neuadd Gyhoeddus" i lwyfanu dramâu a sioeau amrywiol yn ogystal â thrafodaethau, dawnsfeydd a digwyddiadau codi arian. Rhoddwyd trwydded sinema iddi ar 25 Ionawr, 1909. Roedd y ffilmiau cyntaf i'w dangos yn cynnwys Hunting Crocodiles on The Nile a The Naughty Little Princess.[1]

Ceir 379 o seddi yn y theatr ac un sgrîn fawr. Mae pris tocynnau yn isel ac mae'n lle poblogaidd. Yn ôl y rheolwr, Phil Batty,

"Mae ein cynulleidfa yn hoffi dod i wylio ffilm mewn lleoliad traddodiadol a hefyd maen nhw yn gwerthfawrogi'r ffaith bod ein tocynnau mor fforddiadwy. Mae teulu o bedwar yn gallu gweld ffilm am £12 am 7.30pm, byddai'n anodd iawn i chi guro hynny mewn sinema aml-sgrin."[1]

Cynhelir cyngherddau yn y theatr hefyd. Yn 2009 perfformiodd Cerys Matthews, cyn-leisydd Catatonia yno a bu'r gyngerdd yn llwyddiant mawr.[2]

Noddwr amlycaf Theatr Colwyn yw Terry Jones, y digrifwr, actor, awdur a sgriptiwr a anwyd ym Mae Colwyn ac sy'n enwog fel un o griw Monty Python.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]