Neidio i'r cynnwys

The Twilight Saga: Eclipse

Oddi ar Wicipedia
The Twilight Saga: Eclipse
Cyfarwyddwr David Slade
Cynhyrchydd Wyck Godfrey
Karen Rosenfelt
Ysgrifennwr Stephenie Meyer (Nofel)
Melissa Rosenberg (Sgript)
Serennu Robert Pattinson
Kristen Stewart
Taylor Lautner
Cerddoriaeth Howard Shore
Sinematograffeg Javier Aguirresarobe
Golygydd Nancy Richardson
Art Jones
Dylunio
Dosbarthydd Summit Entertainment
Dyddiad rhyddhau Mehefin 30, 2010
Gwlad UD
Iaith Saesneg
Cyllideb $68,000,000
Rhagflaenydd The Twilight Saga: New Moon
Olynydd The Twilight Saga: Breaking Dawn

Ffilm ffantasi-rhamantus o Unol Daleithiau America a gyfarwyddwyd gan David Slade yw The Twilight Saga: Eclipse (neu Eclipse). Addasiad ydyw o'r nofel o'r enw yr un (Eclipse) gan Stephenie Meyer. Dyma'r drydedd ffilm yn y gyfres Twilight Saga ac mae hi'n ddilyniant i'r ffilmiau Twilight (2008) a The Twilight Saga: New Moon (2009). Dechreuwyd ffilmio ar 17 Awst, 2009 yn Vancouver a gorffennwyd yn yr Hydref. Rhyddhawyd y ffilm ar 30 Mehefin, 2010 yn yr Unol Daleithiau a 9 Gorffennaf, 2010 yn y Y Deyrnas Unedig.