Edward Cullen

Oddi ar Wicipedia
Edward Cullen
Cymeriad Twilight

Pattinson fel Edward Cullen yn y ffilm The Twilight Saga: Eclipse
Ymddangosiad cyntaf Twilight
Crëwyd gan Stephenie Meyer
Portreadwyd gan Robert Pattinson
Gwybodaeth
Enw (au) arall Edward Anthony Masen (enw dynol)
Rhywogaeth Fampir
Rhyw Gwryw
Galwedigaeth Myfyriwr
Teulu Edward Masen, Sr. (tad biolegol)

Elizabeth Masen (mam fiolegol)
Esme Cullen (mam fabwysiadol)
Carlisle Cullen (tad mabwysiadol)
Alice Cullen a Rosalie Hale (chwiorydd mabwysiadol)
Jasper Hale ac Emmett Cullen (brodyr mabwysiadol)
Charlie Swan (tad-yng-nghyfraith)

Renée Dwyer (mam-yng-nghyfraith)
Priod Isabella Marie Swan
Plant Renesmee Carlie Cullen


Un o'r prif gymeriadau ffuglennol The Twilight Saga, gan Stephenie Meyer, ydy Edward Cullen (gynt Edward Anthony Masen) a chwaraewyd gan Robert Pattinson. Mae'n ymddangos yn y llyfrau Twilight, New Moon, Eclipse a Breaking Dawn yn ogystal â'r ffilmiau addasiad a'r nofel anorffenedig Midnight Sun sy'n ail fersiwn y stori Twilight o safbwynt Edward. Fampir ydy Edward sy'n cwympo mewn cariad, priodi, a chael plentyn gyda Bella Swan - glaslances sy'n dewis dod yn fampir hefyd.

Cymeriadaeth[golygu | golygu cod]

Yn y llyfrau, mae Bella yn disgrifio Edward fel person swynol, moesgar, penderfynol, a chyndyn iawn. Mae'n amddiffynnol iawn dros Bella. Mae'n gor-ddadansoddi'n aml yn enwedig pan yw e mewn perygl. Mae'n defnyddio iaith wedi dyddio sy'n ei gadw o fywyd Edward yn dechrau'r 20g. Mae Edward yn gweld ei hun fel anghenfil a bu iddo ddymuno i fod yn ddynnol ers iddo gwympo mewn cariad gyda Bella.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]