The Saddle

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
An Dìollaid (The Saddle)

(Ucheldir yr Alban)
"Y Cyfrwy".
Cyfieithiad Y Cyfrwy
Iaith An Dìollaid = Gaeleg yr Alban, The Saddle = Saesneg
Testun y llun "Y Cyfrwy".
Uchder (m) 1010
Uchder (tr) 3314
Amlygrwydd (m) 333
Lleoliad Ucheldir yr Alban
Map topograffig Landranger 33;
Explorer 414N 414S
Cyfesurynnau OS NG936131
Gwlad yr Alban
Dosbarthiad Marilyn, Munro, Murdo a HuMP

Mae The Saddle (Gaeleg: An Dìollaid) yn gopa mynydd a geir ar y daith o Glen Shiel i Loch Hourn a Loch Quoich yng ngogledd-orllewin Ucheldir yr Alban; cyfeiriad grid NG936131. Ceir carnedd fechan ar y copa. Y fam-fynydd yw Aonach air Chrith. Mae'n un o'r ychydig fynyddoedd hynny yn Ucheldir yr Alban ble mae'r enw brodorol (Gaeleg) wedi mynd yn anghof hyd yn oed i'r brodorion. Mae'r mynydd yn edrych fel cyfrwy o Glen Shiel, a roddodd ei enw saesneg iddo. Mae wedi'i leoli rhwng siroedd Inverness-shire, Ross a Cromarty.

Dosberthir copaon yr Alban yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Munro, Murdo a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Ailfesurwyd uchder y copa hwn ddiwethaf ar 20 Tachwedd 2009.

O faes y gad Brwydr Glenshiel, gellir gweld un o'r golygfeydd godidocaf yr Alban, gyda'r Ucheldir yn ei gogoniant.

Ail Gopa[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir dau gopa i'r mynydd hwn, a'r ddau yr un uchder; er mwyn gwahaniaethu ceir triongl OS ar un o'r copaon, sef yr un gorllewinol. Cyfesurynnau grid OS y copa hwn ydy NG934130.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]