On the Origin of Species

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth The Origin of Species)
Jump to navigation Jump to search
On the Origin of Species  
Origin of Species title page.jpg
Rhifyn 1859 o
On the Origin of Species[1]
Awdur Charles Darwin
Gwlad Lloegr
Iaith Saesneg
Pwnc (pynciau) Detholiad naturiol
Genre(s) Gwyddoniaeth, bioleg
Cyhoeddwr John Murray
Math o gyfrwng Print (clawr caled)
Tudalennau 502
ISBN N/A
Rhif OCLC 352242
Rhagfl'd gan 'On the Tendency of Species to form Varieties; and on the Perpetuation of Varieties and Species by Natural Means of Selection'
Dilynwyd gan 'Fertilisation of Orchids'

Cyhoeddwyd On the Origin of Species (dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 1859); awdur: Charles Darwin gyda'r teitl llawn: On the Origin of Species by Means of Natural Selection, or the Preservation of Favoured Races in the Struggle for Life. Roedd y llyfr gwyddonol hwn o bwys mawr ac yn garreg filltir mewn llenyddiaeth wyddonol. Pan gyhoeddwyd y 6ed rhifyn newidiwyd y teitl i: The Origin of Species. Mae copi o'r clawr hwn i'w weld ar y dde.

Darwin - ychydig ar ôl cyhoeddi'r llyfr

Roedd y llyfr yn cyflwyno'r syniad o esblygiad drwy ddetholiad naturiol mewn bioleg. Profodd fod organebau byw wedi esblygu dros amser drwy broses a alwodd yn ddetholiad naturiol. Roedd hyn yn creu'r syniad o 'goeden' gyda'r canghennau'n esblygu yn wahanol greaduriaid. i droi'r syniad hwn ar ei ben i lawr, fe welwn fod pob creadur yn tarddu o'r un boncyff. Pan gyhoeddwyd y llyfr, roedd llawer iawn o Gristnogion yn ymateb yn ffyrnig iawn gan fod y syniadau hyn yn groes i syniadau'r Beibl fod Duw wedi creu organebau byw ('anifeiliaid y maes a physgod y môr') i gyd ar yr un pryd. Roedd hi'n anodd iawn i lawer o'r rhain dderbyn mai o fwnci (ac anifeiliaid eraill cyn hynny) y daeth dyn.

Roedd ei ymweliad â Chwm Idwal a'i daith mewn cwch o'r enw HMS Beagle yn 1830 wedi bod yn allweddol i hyn oll. Sgwennodd y llyfr ar gyfer y lleygwr a daeth yn llyfr tu hwnt o boblogaidd. Pymtheg swllt oedd ei bris a gwerthwyd pob un o'r 1,250 copi cyntaf ar unwaith. Cyhoeddwyd yr ail argraffiad ar 7 Ionawr 1860 a gwerthwyd 3,000 copi.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]