The Fault in Our Stars (ffilm)

Oddi ar Wicipedia
The Fault in Our Stars

Poster o'r ffilm
Cyfarwyddwr Josh Boone
Ysgrifennwr Scott Neustadter
Michael H. Weber
Serennu Shailene Woodley
Ansel Elgort
Nat Wolff
Laura Dern
Sam Trammell
Willem Dafoe
Sinematograffeg Ben Richardson
Golygydd Robb Sullivan
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Temple Hill Entertainment
TSG Entertainment
Dosbarthydd 20th Century Fox
Amser rhedeg 126 munud[1]
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Cyllideb $12 miliwn[2]
Refeniw gros $304.9 miliwn
Am y nofel gan John Green, gweler The Fault in Our Stars.

Ffim ramant Americanaidd o 2014 a gyfarwyddwyd gan Josh Boone ydy The Fault in Our Stars. Mae'n seiliedig ar y nofel o'r un enw gan John Green. Mae'r ffilm yn serennu Shailene Woodley, Ansel Elgort a Nat Wolff, gyda Laura Dern, Sam Trammell a Willem Dafoe yn chwarae rhannau cefnogol. Chwaraea Woodley ran Hazel Grace Lancaster, merch un ar bymtheg oed sy'n dioddef o gancr ac sydd wedi cael ei gorfodi gan ei rhieni i fynychu grŵp cymorth cancr. Tra yno, mae'n cwrdd ac yn cwympo mewn cariad gyda Augustus Waters, a chwaraeir gan Elgort.

Dechreuwyd datblygu The Fault in Our Stars ym mis Ionawr 2012 pan gafodd Fox 2000, sy'n rhan o 20th Century Fox, yr hawliau i addasu'r nofel yn ffilm. Dechreuwyd ffilmio ar 26 Awst, 2013, yn Pittsburgh, yn yr Unol Daleithiau, gyda rhai diwrnodau ychwanegol yn Amsterdam, yr Iseldiroedd, cyn gorffen ffilmio ar 16 Hydref, 2013.

Rhyddhawyd The Fault in Our Stars ar 6 Mehefin, 2014, yn yr Unol Daleithiau. Derbyniodd adolygiadau cadarnhaol gan y beirniaid, gyda chlod penodol yn cael ei roi i Woodley ac i'r sgript.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]