The Catcher in the Rye
![]() | |
Enghraifft o: | gwaith llenyddol ![]() |
---|---|
Awdur | J. D. Salinger ![]() |
Cyhoeddwr | Little, Brown and Company ![]() |
Gwlad | Unol Daleithiau America ![]() |
Iaith | Saesneg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 16 Gorffennaf 1951 ![]() |
Genre | Bildungsroman ![]() |
Cymeriadau | Holden Caulfield, Phoebe Caulfield ![]() |
Statws hawlfraint | dan hawlfraint ![]() |
Lleoliad y gwaith | Dinas Efrog Newydd ![]() |
![]() |

Mae The Catcher in the Rye (1951) yn nofel gan J. D. Salinger. Yn wreiddiol, cafodd ei chyhoeddi ar gyfer oedolion [1] ond bellach mae'n rhan gyffredin o feysydd llafur ysgolion uwchradd a cholegau. Mae'r nofel wedi ei chyfieithu i'r mwyafrif o brif ieithoedd y byd [2]. Gwerthir oddeutu 250,000 o gopïau yn flynyddol, gyda'r cyfanswm o'r nifer o gopïau sydd wedi'u gwerthu hyd yn hyn dros chwechdeg pum miliwn. Mae gwrth-arwr y nofel, Holden Caulfield, wedi datblygu i fod yn eicon ar gyfer arddegwyr gwrthryfelgar.
Dewisodd cylchgrawn Time y nofel fel un o'r nofelau Saesneg gorau a ysgrifennwyd rhwng 1923 a 2005 [3] a chan y Llyfrgell Fodern a'i darllenwyr fel un o'r cant o nofelau gorau o'r 20g. Mae nifer yn yr Unol Daleithiau wedi ceisio herio a chwestiynu cynnwys y nofel yn sgîl ei hiaith gref a'r modd y mae'n darlunio rhywioldeb a phryderon dwys pobl ifanc yn eu glasoed.
Roedd llofruddiaeth John Lennon gan Mark David Chapman ac ymgais John Hinckley, Jr. i ddienyddio Ronald Reagan, ynghyd â llofruddiaethau eraill wedi cael eu cysylltu â'r nofel [4][5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Erthygl Michael Cart (2000-11-15). "Famous Firsts. (llenyddiaeth ar gyfer oedolion ifanc)", Booklist. Rhestrwyd 28 Ionawr 2009". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-01-11. Cyrchwyd 2008-01-11.
- ↑ [Magill, Frank N. (1991). "J. D. Salinger". Magill's Survey of American Literature. New York: Marshall Cavendish Corporation. pp. 1803. ISBN 1-85435-437-X. ]
- ↑ "Erthygl o wefan cylchgrawn Time". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-09-13. Cyrchwyd 2009-01-28.
- ↑ "Erthygl Amarillo.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-04. Cyrchwyd 2009-01-28.
- ↑ "Gwefan Salon.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-11-05. Cyrchwyd 2009-01-28.
Dolenni Allanol
[golygu | golygu cod]- The Catcher in the Rye a Materion Cysylltiedig
- Rhestr o Gymeriadau a Gwybodaeth am Sensoriaeth o Catcher in the Rye
- Lluniau o'r argraffiad cyntaf o Catcher in the Rye
- Dadansoddiad o Catcher in the Rye wrth Spark Notes
- Crynodeb o'r nofel Catcher in the Rye Archifwyd 2009-02-02 yn y Peiriant Wayback
- The Catcher in the Rye - multimedia[dolen farw]