Teulu Carter, Cinmel, Dinbych

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Teulu o Bae Cinmel, Sir Ddinbych, yw'r Carteriaid.

Tywysog ydy ystyr 'mael' ond ni wyddom at ba dywysog mae'r enw'n cyfeirio. Cilmel oedd yr enw gwreiddiol, gyda 'cil' yn golygu 'nook' yn Saesneg, ac mae'r enw yn cael ei gofnodi yn gyntaf yn 1311 fel "Kilmayl".

Parc Cinmel[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg Prif erthygl: Parc Cinmel

Ar un adeg, tua hanner cyntaf 16g, y teulu Lloyd oedd perchnogion Plas Cinmel, ger Abergele, ond pan briododd merch Gruffydd Llwyd ap Ieuan, Alice Llwyd, y gwr bonheddig Richard ap Dafydd ap Ithel o Blas Llaneurgain, daeth y cartref Cinmel dan berchnogaeth newydd. Yna pan briododd eu merch Catherine, un o'r teulu Holland o'r Faerdref, sef Pyrs Holland, daeth Cinmel dan berchnogaeth newydd eto. Cawsant fab, David Holland, yna ŵyr, Pyrs (siryf Sir Ddinbych, 1578), a gor-ŵyr, David (siryf sir Ddinbych, 1596). Cafodd y David hwn ddwy ferch, Mary ac Elizabeth, a phrofwyd ei ewyllys yn 1616 (pan oeddynt ond yn fabanod). Pan yn oedolion, daeth dwy briodas i ddilyn, sef Mary a William Price o'r Rhiwlas, sir Feirionnydd, yn 1641, ac Elizabeth a John Carter yn 1647.

Ganwyd Syr John Carter (bu f. 1676) yn Dinton, Bucks., ac yr oedd yn fab i Thomas Carter. Daeth y mab iau, William yn gyfoethog yn Llundain trwy fasnach, ac dywed traddodiad fod John yntau wedi cychwyn ei yrfa fel llieiniwr. Yn ystod cyfnodau'r rhyfel cartref, gwasanaethodd Syr John fel capten a chyrnol yn y fyddin ar ochr y seneddwyr, e.e. pan bu gwarchae Brereton ar ddinas Caer. Cymerodd ran blaenllaw yn ystod gwarchae Dinbych hefyd pan mewn cysylltiad agos á George Twiselton, gan weithredu fel gweinyddwr yn y dref ar ól iddi syrthio yn Hydref 1646. Erbyn mis Tachwedd, gwnaed John yn llywiawdr castell Conwy, ac ym mhen amser yn rheolwr gogledd Cymru. Pan ddechreuodd yr ail Rhyfel Cartref yn 1646, bu mewn cysylltiad a Twiselton eto er mwyn cael gorchfygu Syr John Owen a'i garcharu. Fe'i gwnaed yn siryf sir Gaernarfon y tro hwn (1650), ac yn gomisiynwr gyda Deddf Lledaeniad yr Efengyl yng Nghymru 1649. Cafodd ei gadarnhau yn llywiawdr Conwy gan Cromwell, ac yn arglwydd raglaw sir Gaernarfon yn 1651 a 1656. Bu'n aelod seneddol sir Ddinbych yn 1654 a 1658-1659, gan gael ei urddo yn farchog gan Cromwell tua mis Mawrth 1657/58. Yn y cyfnod cythryblus hwn fodd bynnag a thua diwedd gyrfa Cromwell, gorfodwyd John Carter allan o senedd y 'Rump' oherwydd diffyg teyrngarwch i'r naill ochr neu'r llall. Wedi'r Adferiad urddwyd ef yn farchog gan y Brenin (Meh. 1660) ac estynwyd ei ddyddiau fel yr aelod seneddol dros Ddinbych. Yn ogystal, penodwyd ef yn stiward maenor Dinbych a llywiawdr Caergybi yn 1660, ac yn siryf sir Ddinbych unwaith eto yn 1665. Terfynwyd ei fywyd daearol ar 28 Tachwedd, 1676, ac fe'i claddwyd yn eglwys Cegidiog neu Lan San Siór sy'n heneb adfeiledig erbyn hyn.

Cadwyd y cartref Cinmel gan y teulu Carter hyd at 1781 pan y rhoddwyd caniatad i William Carter, disgynydd i Syr John trwy ei fab Thomas Carter (bu f. 24 Gorff. 1702), yr hwn a brofodd y trafferthion ariannol mawr, i werthu'r eiddo i Syr George Wynne, Coedllai, sir y Fflint, trwy ddeddf seneddol. Yr un fu hanes perchnogion newydd a diweddarach yr ystad, oherwydd y faich barhaus o geisio cynnal a chadw y cartref heb fynd i ddyledion. Ers 1953 fodd bynnag, gosodwyd hen ddogfennau'r teulu ar fenthyg yn llyfrgell Coleg y Brifysgol, Banor.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • E. Gwynne Jones, Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych/Denbighshire Historical Society Transactions, (1955), erthygl ar ystadau Cinmel
  • Norman Tucker, Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, (1952) erthygl ar hanes Syr John Carter
  • Ceir cyfeiriadau eraill (weithiau'n anghyson) : Archaeologia Cambrensis, 1867 (167), 1870 (174)
  • John Williams, Ancient and Modern Denbigh: a Descriptive History of the Castle, Borough and Liberties with Sketches of the Lives, Character and Exploits of the Feudal Lords (Dinbych, 1856)
  • History of the Princes, the Lords Marcher, and the Ancient Nobility of Powys Fadog, iv (mynegai)
  • Calendar of Wynn (of Gwydir) Papers, 1515 - 1690, in the National Library of Wales and elsewhere, 1926 (mynegai)
  • T. Richards, A History of the Puritan Movement in Wales, 1920 a Religious Developments in Wales, 1654 - 1662, 1923 (mynegion)