Terry Matthews
Gwedd
Terry Matthews | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mehefin 1943 Casnewydd |
Man preswyl | Kanata |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | entrepreneur busnes, person busnes |
Plant | Trevor Matthews |
Gwobr/au | OBE, Swyddog Urdd Canada, Fellow of the Royal Academy of Engineering, Fellow of the Institution of Engineering and Technology, Marchog Faglor |
Mae Terry Matthews neu Syr Terence Hedley Matthews (ganwyd 6 Mehefin 1943) yn enedigol o Gasnewydd ac yn adnabyddus fel entrepreneur llwyddiannus. Credir mai ef oedd biliwnydd cyntaf Cymru. Yn 2012, ef oedd person cyfoethocaf Cymru, gyda gwerth o £1.09 biliwn.[1]
Sefydlodd sawl cwmni ym maes technoleg a chyfathrebu yng Nghanada, gyda Mitel a Newbridge Networks ymysg ei fentrau mwyaf llwyddiannus. Gwerthwyd Mitel i British Telecom ym 1986 a Newbridge Networks i Alcatel yn y flwyddyn 2000.
Er iddo ymfudo i Ganada yn ddyn ifanc, mae'n parhau i fod â chysylltiadau agos â Chymru. Mae'n berchen ar Westy Hamdden y Celtic Manor yng Nghasnewydd lle y cynhaliwyd Cwpan Ryder yn 2010.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyfoeth: Syr Terry Matthews yn ôl ar y brig. BBC (29 Ebrill 2012).