Terry Matthews

Oddi ar Wicipedia
Terry Matthews
Ganwyd6 Mehefin 1943 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
Man preswylKanata Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethentrepreneur busnes, person busnes Edit this on Wikidata
PlantTrevor Matthews Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Swyddog Urdd Canada, Fellow of the Royal Academy of Engineering, Fellow of the Institution of Engineering and Technology, Marchog Faglor Edit this on Wikidata

Mae Terry Matthews neu Syr Terence Hedley Matthews (ganwyd 6 Mehefin 1943) yn enedigol o Gasnewydd ac yn adnabyddus fel entrepreneur llwyddiannus. Credir mai ef oedd biliwnydd cyntaf Cymru. Yn 2012, ef oedd person cyfoethocaf Cymru, gyda gwerth o £1.09 biliwn.[1]

Sefydlodd sawl cwmni ym maes technoleg a chyfathrebu yng Nghanada, gyda Mitel a Newbridge Networks ymysg ei fentrau mwyaf llwyddiannus. Gwerthwyd Mitel i British Telecom ym 1986 a Newbridge Networks i Alcatel yn y flwyddyn 2000.

Er iddo ymfudo i Ganada yn ddyn ifanc, mae'n parhau i fod â chysylltiadau agos â Chymru. Mae'n berchen ar Westy Hamdden y Celtic Manor yng Nghasnewydd lle y cynhaliwyd Cwpan Ryder yn 2010.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]



Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.