Teraset

Oddi ar Wicipedia

Gris llorweddol, cul ac iddo wyneb gwastad sy'n nodweddu rhai llechweddau terasog, glaswelltog, serth yw teraset. Fel rheol, mae pob teraset yn rhan o gyfres led-gyflin.

Mae'n bosibl fod rhai'n ymffurfio wrth i ddefaid neu wartheg ddilyn llwybrau ar draws y llechweddau, gan nad ydynt i'w cael ar lethrau sydd ddim o fewn cyrraedd da byw. Fodd bynnag, mae'n bosibl fod eraill yn cynrychioli cylchlithriadau bach.[1] Cyfeirir atynt weithiau gan y lleygwr fel 'lwybrau defaid'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-29.