Tenacious D
Gwedd
| Enghraifft o: | band |
|---|---|
| Gwlad | |
| Label recordio | Epic Records, Columbia Records, Sony BMG |
| Dod i'r brig | 1994 |
| Dechrau/Sefydlu | 1994 |
| Genre | comedy rock, cerddoriaeth roc caled, roc poblogaidd |
| Yn cynnwys | Jack Black, Kyle Gass |
| Gwefan | https://www.tenaciousd.com/ |
| Dynodwyr | |
Band roc dychanol yw Tenacious D, a ffurfiwyd yn Los Angeles, Califfornia. Mae'r band yn cynnwys y cerddorion ac actorion Jack Black (llais a gitâr) a Kyle Gass (llais a gitâr).
Ffurfiwyd Tenacious D ym 1994 pan berfformiodd aelodau'r band fel deuawd acowstig. Cynyddodd poblogrwydd y band ym 1999 pan serennodd y band yn eu cyfres deledu eu hunain a dechreuasant gefnogi bandiau roc mawr. Yn 2001, rhyddhawyd eu halbwm gyntaf, Tenacious D. Eu sengl gyntaf "Tribute" oedd eu hunig gân i gyrraedd y deg uchaf tan rhyddhawyd "The Metal," a ddangoswyd ar Saturday Night Live.