Tegeirian y wenynen
| Ophrys apifera | |
|---|---|
| Tegeirian y wenynen; gwarchodfa natur RSPB, Conwy. Llun gan Alun Williams, Cymdeithas Edward Llwyd. | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Monocotau |
| Urdd: | Asparagales |
| Teulu: | Orchidaceae |
| Genws: | Ophrys |
| Rhywogaeth: | O. apifera |
| Enw deuenwol | |
| Ophrys apifera William Hudson (botanegydd) | |
| Cyfystyron | |
| |
Tegeirian yw Tegeirian y wenynen sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Orchidaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Ophrys apifera a'r enw Saesneg yw Bee orchid.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Tegeirian y Gwenyn a Thegeirian Gwenynen.
Mae'n blanhigyn blodeuol nodedig ac fel eraill o deulu'r Orchidaceae, mae'r blodau'n hynod liwgar ac mae'n cynhyrchu arogl da. Enw'r genws yw Orchis, sy'n tarddu o Hen Roeg ὄρχις (órkhis), sy'n golygu caill; mae hyn yn cyfeirio at gloron deuol rhai tegeirianau.[2]
Tyf Tegeirian y wenynen hyd at 15–50 cm (6-20 mod). Mae'n blanhigyn parhaol caled a cheir roset o ddail yn yr hydref, sy'n parhau i dyfu'n araf drwy gydol y gaeaf.
Lladin
[golygu | golygu cod]"Ael" yw ystyr y gair Lladin "Ophrys", sy'n tarddu o'r gair Groeg "ophrys". Mae'r gair Lladin "apifera" cyfeirio at y petalau sy'n ymdebygu i wenynen, fel y mae'r enw Cymraeg.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y Bywiadur[dolen farw] Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
- ↑ Joan Corominas (1980). Breve Diccionario Etimológico de la Lengua Castellana. Ed. Gredos. t. 328. ISBN 84-249-1332-9.
