Tecumseh

Oddi ar Wicipedia
Tecumseh
Ganwydc. 1768 Edit this on Wikidata
Ohio Edit this on Wikidata
Bu farw5 Hydref 1813 Edit this on Wikidata
o marwolaeth mewn brwydr Edit this on Wikidata
Moravian Indian Reserve 47 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethShawnee, Oklahoma‎ Edit this on Wikidata
Galwedigaethpenadur Edit this on Wikidata

Arweinydd llwyth brodorol y Shawnee yn yr Unol Daleithiau oedd Tecumseh, weithiau Tecumtha neu Tekamthi (Mawrth 17685 Hydref 1813). Treuliodd ran helaeth o'i fywyd yn ceisio uno'r llwythau brodorol i amddiffyn eu tiroedd.

Ganed ef tua 9 Mawrth, 1768, gerllaw tref bresennol Xenia, Ohio. Roedd ei dad, Pucksinwah, yn un o benaethiaid y Shawnee, ond lladdwyd ef mewn brwydr yn 1774.

Yn 1805, dechreuodd adfywiad crefyddol ymysg y Shawnee, dan arweiniad brawd iau Tecumseh, Tenskwatawa. Galwai Tenskwatawa ar y brodorion i ymwrthod a ffyrdd y dyn gwyn ac i wrthod ildio mwy o'u tir iddynt. Erbyn 1808 roedd Tenskwatawa a Tecumseh wedi ymsefydlu mewn pentref a elwid Prophetstown, ger cymer Afon Wabash ac Afon Tippecanoe, yn yr hyn sy'n awr yn dalaith Indiana. Cymharol ychydig o'u dilynwyr oedd yn Shawnee.

Yn 1809, trwy Gytundeb Fort Wayne, ildiodd amryw o lwythau eu tiroedd i William Henry Harrison, llywodraethwr Tiriogaeth Indiana. Gwrthwynebodd Tecumseh hyn, a daeth yn brif arweinydd y brodorion oedd yn mynnu cadw eu tiroedd. Cyfarfu Tecumseh a Harrison yn 1811, ond ni fu cytundeb. Aeth Tecumseh i'r de i chwilio am gyngheiriaid ynhlith y Pum Llwyth Gwareiddiedig, ond tra'r oedd yn y de, ymosododd Harrison ar Tenskwatawa a'i orchfygu.

Pan ddechreuodd Rhyfel 1812 rhwng yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig, gwnaeth Tecumseh gynghrair â'r fyddin Brydeinig. Ymunodd â byddin Syr Isaac Brock i orfodi Detroit i ildio yn Awst 1812. Lladdwyd Tecumseh ym Mrwydr y Thames, ger Chatham, Ontario yn ymladd gyda byddin Brydeinig Henry Procter yn erbyn byddin Harrison, oedd wedi croesi'r ffîn i Ganada.

Enwyd y Cadfridog William Tecumseh Sherman ar ei ôl.