Tatsfield

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 51°17′56″N 0°01′52″E / 51.299°N 0.031°E / 51.299; 0.031

Tatsfield
The pond at Tatsfield, TN16 - geograph.org.uk - 68152.jpg
Tatsfield is located in Y Deyrnas Unedig
Tatsfield

 Tatsfield yn: Y Deyrnas Unedig
Poblogaeth 1,863 (2011)[1]
Cyfeirnod grid yr AO TQ4157
Plwyf Tatsfield
Ardal Tandridge
Swydd Surrey
Rhanbarth
Gwlad Lloegr
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost WESTERHAM
Rhanbarth cod post TN16
Cod deialu 01959
Senedd yr Undeb Ewropeaidd De-ddwyrain Lloegr
Senedd y DU Dwyrain Surrey
Rhestr llefydd: y DU • Lloegr •

Pentref yn Surrey, De-ddwyrain Lloegr, yw Tatsfield. Saif i'r de-ddwyrain o Lundain, ar gyrion Llundain Fwyaf, ac yn agos at y ffîn rhwng Surrey a Caint. Mae'r boblogaeth tua 1,800.

Ar ddechrau'r 14g, roedd Rhodri ap Gruffudd, brawd iau Llywelyn ap Gruffudd, yn dal maenor Tatsfield wedi iddo symud i Loegr. Etifeddwyd y faenor gan ei fab, Thomas ap Rhodri, ac mae'n bosibl mai yma y ganed ei fab ef, Owain Lawgoch. Fforffedodd Owain y faenor yn 1369 oherwydd ei fod yng ngwasanaeth Siarl V, brenin Ffrainc. Dywedir fod enwau Cymraeg ar rai strydoedd yma, e.e. "Maesmaur Road" (felly).

Bu'r diplomydd Donald Maclean yn byw yma o fis Rhagfyr 1950 hyd nes iddo ffoi i'r Undeb Sofietaidd ym mis Mai 1951.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Surrey shield.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Surrey. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato