Biggin Hill
Gwedd
| Math | ardal o Lundain |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Bromley |
| Poblogaeth | 10,817 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Llundain Fwyaf |
| Gwlad | |
| Yn ffinio gyda | Tatsfield |
| Cyfesurynnau | 51.3127°N 0.0336°E |
| Cod OS | TQ418590 |
| Cod post | TN16 |
![]() | |
Tref ym Mwrdeistref Llundain Bromley, Llundain Fwyaf, Lloegr, ydy Biggin Hill.[1] Saif tua 15.2 milltir (24.5 km) i'r de-ddwyrain o ganol Llundain.[2] Saif Keston i'r gogledd, New Addington i'r gogledd-orllewin a Tatsfield, yn sir gyfagos Surrey, i'r de.
Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan ward Biggin Hill boblogaeth o 10,817.[3]
Cyn 1965 pan grëwyd Llundain Fwyaf, roedd Biggin Hill yn sir weinyddol Caint. Mae'n un o fannau uchaf yn Llundain Fwyaf, dros 210 metr (690 troedfedd) uwchben lefel y môr.
Lleolir Maes Awyr Biggin Hill ar dir a ddefnyddiwyd gynt gan RAF Biggin Hill, un o’r prif ganolfannau awyrennau ymladd a amddiffynnodd Llundain rhag awyrennau bomio’r Almaen yn ystod Brwydr Prydain.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 30 Mai 2023
- ↑ Yn draddodiadol, ystyrir Charing Cross fel canol Llundain, a mesurir pellteroedd i'r brifddinas o'r pwynt hwnnw.
- ↑ City Population; adalwyd 30 Mai 2023
