Tataouine

Oddi ar Wicipedia
Tataouine
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Poblogaeth95,775 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 6 Awst 1920 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTataouine Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau32.9333°N 10.45°E Edit this on Wikidata
Cod post3200 Edit this on Wikidata
Map
Ksar Ouled Soltane, Tataouine

Dinas yn ne-ddwyrain Tiwnisia yw Tataouine (Arabeg: تطاوين), sy'n brifddinas talaith Tataouine. Ei hen enw oedd Foum Tataouine. Fe'i lleolir 531 kilometer i'r de o Diwnis a thua 85 km i'r de o Gabes ar ymyl anialwch y Sahara. Poblogaeth: 59,346 (2004).

Ystyr yr enw 'Tataouine', sy'n ffurf Arabeg ar yr enw Berbereg tittawen, yw "ffynnon" neu "ffynhonnell dŵr". Mae'n ddinas werddon sy'n adnabyddus am ei phensaernïaeth dradoddiadol, yn enwedig ei ksars (caerau). Yn y gorffennol byddai carafanau yn cychwyn neu'n cyrraedd Tataouine ar hyd y llwybrau masnach ar draws y Sahara a gysylltai Tiwnisia â gorllewin Affrica.

Twristiaeth ac amaethyddiaeth yw'r prif ddiwydiannau heddiw. Yn weinyddol, fe'i rhennir yn ddau ddosbarth, sef Gogledd a De Tataouine.

I wylwyr ffilmiau mae Tataouine yn adnabyddus fel yr ysbrydoliaeth i'r blaned 'Tatooine', planed dywodlyd yn ffilmiau Star Wars y cynhyrchydd George Lucas.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]