Taoaeth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Taoiaeth)
Taoaeth
Enw Tsieineeg
Tsieineeg traddodiadol neu
Tsieineeg syml neu
Enw Fietnameg
Fietnameg đạo giáo
Enw Corëeg
Hangul
Enw Japaneg
Kanji
Hiragana どう きょう

Traddodiad crefyddol ac athronyddol sy'n pwysleisio byw mewn cytgord â Thao (neu Dao) ydy Taoaeth (hefyd Daoaeth). Mae'r term Tao yn golygu "ffordd", "llwybr" neu "egwyddor", a gellir ei darganfod mewn athroniaethau a chrefyddau Tsieineaidd eraill ar wahân i Daoaeth. Yn Nhaoaeth, fodd bynnag, dynoda Tao y ffynhonnell a'r grym y tu ôl i bopeth. Yn y diwedd, anhraethadwy ydy hi: "The Tao that can be told is not the eternal Tao."[1]

Prif destun llenyddol Taoaeth ydy'r Tao Te Ching. Dyma lyfr cryno ac amwys sy'n cynnwys dysgeidiaeth a briodolir i Laozi (Tsieineeg: 老子; pinyin: Lǎozi; Wade–Giles: Lao Tzu). Ynghyd ag ysgrifau Zhuangzi, mae'r testunau hyn yn adeiladu sylfaen athronyddol Taoaeth. Yr enw ar y math o Daoaeth hon ydy Taoaeth athronyddol, gan ei bod yn unigoliaethol o ran ei natur ac nid yw hi wedi'i sefydliadu. Datblygodd fathau sefydliadedig dros amser ar ffurf ysgol o feddyliau gwahanol, gan amlaf yn integreiddio credoau ac arferion sy'n ôl-ddyddio'r prif destunau – fel, er enghraifft, theorïau Ysgol y Naturiaethwyr, sy'n cyfosod y cydsyniad o in iang a'r Pum Elfen. Mae ysgol o feddyliau Taoaidd fel arfer yn parchu Laozi, yr anfarwolion neu'r hynafiaid, ynghyd ag amrywiaeth o ddarogan a defodau allfwrw, ac arferion er mwyn cyrraedd perlewyg, hirhoedledd neu anfarwoldeb.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am Daoaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.