Laozi
Gwedd
| Laozi | |
|---|---|
| Ffugenw | Dan Li, Er Li, Tan Li |
| Ganwyd | 6 g CC Chu, Zhoukou |
| Bu farw | Mileniwm 1. CC |
| Dinasyddiaeth | Brenhinllin Zhou |
| Galwedigaeth | athronydd, archifydd, ysgrifennwr, Taoist |
| Adnabyddus am | 道德經 |
| Mudiad | Taoaeth, Eastern philosophy, Hundred Schools of Thought |
| Tad | Li Jing |
| Mam | Xiantian |
| Plant | Li Zong |
Athronydd o Tsieina oedd Laozi neu Lao Tzu (Tsieineeg: 老子 Lǎozǐ). Mae ei waith yn ganolog i Daoaeth, athroniaeth led-grefyddol sy'n tarddu o Tsieina. Yn ôl y ffynonellau traddodiadol, roedd Laozi'n byw yn y 6ed ganrif CC ac yn awdur y Tao Te Ching. Yn ôl haneswyr diweddar, mae'n bosibl ei fod yn ffigwr cyfansawdd neu'n athronydd o'r 4 CC. Mae'r cyfeiriad cynharaf at Laozi i'w cael yn y Shiji ("Cofnodion yr Hanesydd"), a gafodd ei ysgrifennu tua 100 CC gan Sima Qian.