Talkin Tarn
| Math | llyn |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Brampton |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Cumbria (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 54.922°N 2.71°W |
![]() | |
Llyn yng ngogledd Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Talkin Tarn.[1] Mae’n llyn twll tegell, wedi ffurfio 10,000 mlynedd yn ôl[2]. Mae’n gartref i Glwb Hwylio Brampton ac i Glwb Rhwyfo Amatur Talkin Tarn. Mae’r llyn yn rhan o Barc Gwledig Talkin Tarn. Maint y llyn yw 65 acer ac mae llwbr 1.3 milltir o hyd o’i gwmpas[3]


Etymoleg
[golygu | golygu cod]Tarddiad yr enw Talkin yw’r dafodiaith Gymbreg o Frythoneg. Yn ôl A. M. Armstrong, et al., daw'r elfen gyntaf, tal, sy'n golygu "ael" neu "diwedd" neu "blaen" o'r Frythoneg a'r Gymraeg, Cernyweg, a Llydaweg gyfoes. Mae'r ail elfen yn aneglur. Gall ddod o'r Frythoneg fel sy'n ymddangos yn y Gymraeg a'r hen Gernyweg, can ("gwyn") a'r Lydaweg kann. Ystyr "Talkin" felly, o bosib, yw "ael gwyn".[4] Daw'r gair 'Tarn' o'r Hen Norseg 'tjǫrn' ac oddi yno i'r Saesneg Canol 'terne' yn golygu 'pwll fechan mewn mynydd' neu 'llyn fechan'.[5]
Oriel
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 22 Chwefror 2020
- ↑ Gwefan visitnorthwest.com
- ↑ Gwefan visitcumbria.com.
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 627: attempt to call upvalue 'add_prop_cat' (a nil value).
- ↑ Whaley, Diana (2006). A dictionary of Lake District place-names. Nottingham: English Place-Name Society. tt. lx, 423 p.420. ISBN 0904889726.
