Tŷ Bernarda Alba

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Crewyd yr erthygl hon drwy gyfieithu'r erthygl Saesneg: The House of Bernarda Alba.

Drama gan y dramodydd Sbaenaidd Federico García Lorca yw Tŷ Bernarda Alba (Sbaeneg: La casa de Bernarda Alba). Cynullir hi'n aml gyda Priodas Gwaed (Sbaeneg: Bodas de sangre) ac Yerma yn "drioleg wledig". Nis cynhwyswyd yng nghynllun Lorca ar gyfer "trioleg o dir Sbaen" (a oedd heb ei gorffen pan gafodd ei lofruddio).[1]

Disgrifiodd Lorca y ddrama yn ei is-deitl fel "drama o fenywod ym mhentrefi Sbaen". Tŷ Bernarda Alba oedd ei ddrama olaf, yr hon a orffennodd ar 19 Mehefin 1936, ddeufis cyn iddo farw yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen. Perfformiwyd y ddrama am y tro cyntaf ar 8 Mawrth 1945 yn Theatr Avenida ym Muenos Aires.[2][3] Mae'r ddrama yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau tŷ yn Andalwsia yn ystod cyfnod galaru dros ŵr Bernarda Alba. Mae Bernarda (60 oed) yn arfer rheolaeth lwyr dros ei phum merch: Angustias (39 oed), Magdalena (30), Amelia (27), Martirio (24), ac Adela (20). Mae'r forwyn (La Poncia) a mam oedrannus Bernarda, sydd ag anhwylder meddyliol (María Josefa) hefyd yn byw yno.

Mae diffyg llwyr a bwriadol unrhyw gymeriad gwrywaidd yn helpu i greu llawer o densiwn rhywiol sy'n bodoli trwy gydol y ddrama. Ni ymddengys Pepe "el Romano", cariad merched Bernarda ac charwr Angustias, ar y llwyfan o gwbl. Archwilia'r ddrama themâu gormes, angerdd, a chydymffurfiaeth, yn ogystal ag effeithiau dynion ar fenywod.

Crynodeb[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl i'w hail ŵr farw, mae Bernarda Alba, matriarch ormesol, yn gorfodi cyfnod galaru wyth mlynedd ar ei chartref, gan mai "hynny a ddigwyddodd yn nhŷ fy nhad a thŷ ei dad". Mae gan Bernarda bum merch, rhwng 20 a 39 oed, y mae hi'n rheoli'n anfaddeuol ac yn eu gwahardd rhag unrhyw fath o berthynas ramantus. Mae'r cyfnod galaru yn eu hynysu hyd yn oed yn fwy ac yn cynyddu tensiwn yn yr aelwyd.

Ar ôl defod alaru yng nghartref y teulu, mae'r ferch hynaf Angustias yn dod i mewn, er ei bod yn absennol pan roedd y gwesteion yno. Mae Bernarda yn gwylltio, gan dybio ei bod wedi bod yn gwrando ar sgwrs y dynion ar y patio. Roedd Angustias wedi etifeddu llawer o arian gan ei thad, gŵr cyntaf Bernarda, ond dim ond symiau bach a adawodd ail ŵr Bernarda i'w bum merch. Mae cyfoeth newydd Angustias yn denu dyn ifanc, golygus o'r pentref, Pepe el Romano. Mae ei chwiorydd yn dra genfigennus, gan gredu na ddylai Angustias ddiflas, sâl, gael mwyafrif yr etifeddiaeth a'r cyfle i briodi dyn a dianc rhag amgylchedd ormesol eu cartref.

Minerva Mena yn Tŷ Bernarda Alba

Mae'r chwaer ieuengaf Adela, sydd wedi dangos llawenydd a hapusrwydd sydyn ar ôl angladd ei thad, yn gwadu gorchmynion ei mam ac yn gwisgo ffrog newydd, werdd yn lle dillad du, parchus. Mae ei blas byr o lawenydd ieuenctid yn dod i ben yn sydyn wrth ddarganfod bod Angustias am briodi Pepe. Mae Poncia, y forwyn, yn cynghori Adela i aros am ei chyfle: mae Angustias yn debygol o farw wrth roi genedigaeth i'w phlentyn cyntaf. Wedi'i gofidio, mae Adela yn bygwth rhedeg allan i'r strydoedd yn ei ffrog werdd - gweithred hynod o amharchus wrth ystyried y sefyllfa - ond mae ei chwiorydd yn llwyddo i'w hatal. Yn sydyn, maent yn gweld Pepe yn dod i lawr y stryd. Mae hi'n aros ar ôl, tra bod ei chwiorydd yn rhuthro i gael golwg, nes bod y forwyn yn awgrymu y caiff hi olwg well o ffenest ei hystafell wely.

Wrth i Poncia a Bernarda drafod etifeddiaethau'r merched i fyny'r grisiau, mae Bernarda yn gweld Angustias yn gwisgo colur. Wedi'i gwylltio y byddai Angustias yn herio ei gorchmynion i aros mewn cyflwr galaru, mae Bernarda yn sgwrio’r colur oddi ar ei hwyneb. Daw'r merched eraill i mewn, ac wedyn mam oedrannus Bernarda, Maria Josefa, sydd fel arfer wedi'i chloi yn ei hystafell wely oherwydd bod Bernarda yn ei hystyried yn annifyr. Mae Maria Josefa yn cyhoeddi ei bod eisiau priodi; mae hi hefyd yn rhybuddio Bernarda y bydd hi'n troi calonnau ei merched yn llwch os na edy hi iddynt fod yn rhydd. Ond mae Bernarda yn ei gwthio yn ôl i'w hystafell.

Mae'n ymddangos bod Adela a Pepe yn cael perthynas gyfrinachol. Daw Adela yn fwyfwy cyfnewidiol, gan herio ei mam ac yn ffraeo gyda'i chwiorydd, yn enwedig Martirio, sy'n datgelu ei theimladau ei hun dros Pepe. Mae Adela sydd wedi'i hatgasu fwyaf pan fydd y teulu’n clywed y clecs diweddaraf ynglŷn â sut y gwnaeth pobl y dref arteithio merch ifanc a oedd wedi esgor ac wedyn lladd babi anghyfreithlon, o gywilydd.

Ffrwydra'r tensiwn wrth i aelodau'r teulu wynebu ei gilydd ac mae Bernarda yn rhedeg ar ôl Pepe gyda gwn. Clywir ergyd gwn y tu allan. Mae Martirio a Bernarda yn dychwelyd gan awgrymu bod Pepe wedi cael ei ladd. Mae Adela yn rhedeg allan o'r ystafellx. Gydag Adela allan o glyw, mae Martirio yn dweud wrth bawb arall fod Pepe wedi ffoi ar ei ferlen mewn gwirionedd. Mae Bernarda yn dweud na ellir beio hi am beidio â llwydo i saethu Pepe, gan nad yw "menywod yn gallu anelu. Pan glywir clep, mae Bernarda ar unwaith yn gweiddi am Adela, sydd wedi cloi ei hun yn ei hystafell. Pan nad yw Adela yn ymateb, mae Bernarda a Poncia yn bwrw'r drws i lawr. Cyn bo hir, clywir Poncia yn gwichian. Mae'n dychwelyd gyda'i dwylo wedi'u lapio am ei gwddf ac yn dweud wrth y teulu am beidio â mynd i mewn i'r ystafell. Mae Adela, heb wybod bod Pepe wedi goroesi, wedi crogi ei hun.

Tŷ Bernarda Alba gan genhedlaeth hŷn Theatr “Arek” Hamazkayin.[4]

Mae llinellau cau'r ddrama yn dangos bod Bernarda â'i holl fryd ar gadw enw da'r teulu. Mae hi'n mynnu bod Adela wedi marw yn wyryf ac yn mynnu bod y dref gyfan yn cael gwybod hynny. (Mae'r testun yn awgrymu y cafodd Adela a Pepe berthynas rywiol; mae cod moesol a balchder Bernarda yn ei hatal rhag derbyn y peth). Ni ganiateir i unrhyw un yno wylo.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Maurer, Christopher. (1992). Introduction. Three Plays. By Federico García Lorca. Trans. Michael Dewell and Carmen Zapata. London: Penguin. p. ix
  2. Styan, J. L. (1981). Modern Drama in Theory and Practice: Volume 2, Symbolism, Surrealism and the Absurd. Gwasg Prifysgol Caergrawnt. p. 90. ISBN 052123-0683.
  3. Londré, Felicia Hardison (1984). Federico García Lorca. Frederick Ungar Publishing Company. p. 33. ISBN 080442540X.
  4. ""The House of Bernarda Alba" Performed (Lebanon)". 22 Chwefror 2016.
  • Lima, Robert. Theatr Garcia Lorca . Efrog Newydd: Las Americas Publishing Co., 1963.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]