Tŵr Elin
Gwedd
Math | ffoledd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Trearddur |
Sir | Trearddur |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 27.5 metr |
Cyfesurynnau | 53.304402°N 4.693335°W |
Cod OS | SH206819 |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Tŵr castellog ar Ynys Gybi oddi ar pen gogledd-orllewinol Ynys Môn yw Tŵr Elin. Fe'i hadeiladwyd rhwng 1820 a 1850 gan y teulu Stanley o Penrhos. Fe'i defnyddiwyd yn wreiddiol fel tŷ haf. Enwir yr adeilad ar ôl Elin, gwraig y gwleidydd William Owen Stanley.
Aeth yr tŵr yn adfail ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Yn 1980 fe'i prynwyd gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, a adnewyddodd yr adeilad a'i agor i'r cyhoedd ym 1982, i wasanaethu fel gwylfa a chanolfan ymwelwyr ar gyfer Gwarchodfa Natur Ynys Lawd gyfagos.
Mae'n adeilad rhestredig Gradd II.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Ellen's Tower", British Listed Buildings, adalwyd 31 Ionawr 2021