Tân Eglwys Abu Sefein

Oddi ar Wicipedia
Tân Eglwys Abu Sefein
Enghraifft o'r canlynolstructure fire Edit this on Wikidata
Dyddiad14 Awst 2022 Edit this on Wikidata
Lladdwyd41 Edit this on Wikidata
LleoliadGiza Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethYr Aifft Edit this on Wikidata
RhanbarthGiza Edit this on Wikidata

Ar 14 Awst 2022, achoswyd tân gan ddiffyg trydanol yn Eglwys Goptaidd y Merthyr Abu Sefein, Giza, ar gyrion Cairo, yr Aifft. Bu farw 41 o bobl—gan gynnwys 18 o blant ac un o offeiriaid yr eglwys—ac anafwyd o leiaf 55 arall.[1][2] Bu farw'r mwyafrif o bobl o ganlyniad i anadlu mwg.[3]

Cychwynnodd y tân yn ystod gwasanaeth yr offeren ar fore'r Sul, tua 9 o'r gloch. Roedd tua 5,000 o Goptiaid wedi ymgynnull i glywed y gwasanaeth.[3] Yn ôl Gweinyddiaeth Gartref yr Aifft, tarddiad y gwreichion a achosodd y tân oedd nam trydanol mewn peiriant tymheru ar lawr cyntaf yr eglwys.[1] Datganodd offeiriad o eglwys gyfagos taw gorlwyth ar generadur yr eglwys, wedi toriad trydan, a wnaeth achosi'r cylched pwt.[2] Yn ôl llygad-dystion, bu rhai pobl yn neidio allan o'r ffenestri ar loriau uchaf yr adeilad er mwyn dianc.[3]

Cyhuddwyd y gwasanaethau brys gan bobl leol o fod yn rhy hwyr i ymateb i'r argyfwng.[1] Ar nos y Sul, cafwyd angladdau mewn dwy eglwys arall yn Giza, ac ymgynulliodd cannoedd o bobl er cof am y meirw.[2] Mynegwyd cydymdeimladau â'r gymuned Goptaidd gan Abdel Fattah el-Sisi, Arlywydd yr Aifft; Ahmed el-Tayeb, Uchel Imam al-Azhar; ac António Guterres, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.[2] Cyhoeddodd y llywodraeth byddai teuluoedd y meirw yn derbyn iawndal o 100,000 o bunnoedd Eifftaidd.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]