Syr Charles Oakeley, Barwnig 1af
Syr Charles Oakeley, Barwnig 1af | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 27 Chwefror 1751 ![]() |
Bu farw | 7 Medi 1826 ![]() |
Swydd | Rhaglaw Madras ![]() |
Tad | William Oakeley ![]() |
Mam | Christian Strachan ![]() |
Priod | Helena Beatson ![]() |
Plant | Georgina Oakley, Henrietta Oakeley, Louisa Oakeley, unknown daughter Oakeley, Sir Charles Oakeley, 2nd Baronet, Henry Oakeley, Amelia Oakeley, Sir Herbert Oakeley, 3rd Baronet, Edward Oakeley, William Oakeley, Frederick Oakeley ![]() |
Gweinyddydd oedd Syr Charles Oakeley, Barwnig 1af (27 Chwefror 1751 – 7 Medi 1826).[1] Roedd yn dad i Frederick Oakeley ac yn daid i W. E. Oakeley.
Ganwyd Oakeley yn Forton, ger Newport, Swydd Amwythig, yn fab i William Oakeley a Christian Strachan.[1] Crewyd Barwnigiaeth Oakeley o Amwythig ar ei gyfer ar 5 Mehefin 1790. Gweithiodd Oakeley fel gweinyddydd yn India, ac ef oedd yn gyfrifol am gasglu cronfa i ariannu'r rhyfel pan oresgynwyd y Carnatic gan Hyde Ally Cawn. Daeth y rhyfel hwn i ben yn 1784. Dychwelodd Oakeley i Loegr oherwydd rhesymau teuluol ym mis Chwefror 1789, ond fe berswadwyd ef i ddychwelyd i India, y tro yma i wasanaethu fel Llywodraethwr Madras, deliodd y swydd hwn o 1790 hyd 1794. Bu farw yn St George, Madras, India yn 1826.[1]
Ffynonellau[golygu | golygu cod]
- Kidd, Charles, Williamson, David (gol.). Debrett's Peerage and Baronetage (rhifyn 1990). New York: St Martin's Press, 1990.
- Tudalen Penefigaeth Leigh Rayment Archifwyd 2008-05-01 yn y Peiriant Wayback.