Symbol cemegol
Jump to navigation
Jump to search
Cod o un neu ddwy lythyren Ladin sydd yn dynodi elfen gemegol arbennig yw symbol cemegol. Yn y tabl cyfnodol, dangosir symbolau'r elfennau ar y cyd â'u rhifau màs ac atomig. Weithiau defnyddir tair llythyren mewn symbolau ar gyfer enwau dros dro am elfennau newydd neu sydd heb eu darganfod eto. Mae nifer o'r symbolau yn tarddu o enwau Groeg a Lladin ar yr elfennau.