Sycorax (lloeren)
Gwedd
| Enghraifft o: | lleuad o'r blaned Wranws, irregular moon |
|---|---|
| Màs | 2.7 |
| Dyddiad darganfod | 6 Medi 1997 |
| Echreiddiad orbital | 0.5224 |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02rf9g |
Mae cylchdro Sycorax tua 12,200,000 km oddi wrth Wranws ac mae ganddi dryfesur o ryw 160 km. Mae ei chylchdro yn wrthdroadwyol a chanddi ogwyddiad eithafol.
Mae Sycorax yn wrach yn y ddrama The Tempest gan Shakespeare.
Cafodd y lloeren Sycorax ei darganfod gan Brett Gladman, Phil Nicholson, Joseph Burns, a JJ Kavelaars gyda'r Telesgop Hale, Arsyllfa Palomar, ym 1997.
Fel lloerennau afreolaidd eraill, credir mai asteroid sydd wedi cael ei ddal gan ddwyster Wranws yw Sycorax. Credir hefyd i gyfansoddiad y lloeren fod yn gymysgedd o greigiau ac iâ. Mae gan y lloeren liw coch anarferol sy'n arwyddocau cysylltiad hanesyddol gyda Gwregys Kuiper.