Swigod (EP)

Oddi ar Wicipedia
Swigod
Clawr Swigod
EP gan Clinigol
Rhyddhawyd 18 Ionawr 2010
Recordiwyd Mehefin 2009 - Rhagfyr 2009
Genre Pop-electronig
Hyd 27:06
Label (Rhyddhawyd gan Clinigol)
Cynhyrchydd Screamadelica Studios
Cronoleg Clinigol
Melys
(2009)
Swigod
(2010)
Cyfrinach
(2010)

EP pop-electronig gan y band Clinigol yw Swigod. Mae'r EP yn cynnwys y gwestai Nia Medi a Bleed Electric o'r albwm cyntaf y band yn ogystal ag artistiaid newydd fel El Parisa a Rufus Mufasa. Mae dwy gan newydd ar yr EP a remixes yw'r gweddill. Mae'r EP hefyd yn cynnwys caneuon acwstig a chân Saesneg cyntaf y band.

Dywedodd Clinigol am Swigod: "It's got a whole load of stuff on it, out-and-out pop, some slightly darker electro, some urban-electro, ...[and an] old-skool hip-hop style remix of an album track ...that we're very proud of."[1]

Rhyddhawyd Swigod yn fyd-eang hefyd, yn cynnwys ar iTunes UD.[2]

Rhestr senglau[golygu | golygu cod]

  1. "Swigod" (gyda El Parisa) - 3:11
  2. "Perygl" (gyda Rufus Mufasa a Nia Medi) - 3:41
  3. "Oh My Days" (fersiwn Saesneg) (gyda Bleed Electric) - 3:54
  4. "Gwertha Dy Hun" (Breaks Budr John Rea) - 4:32
  5. "Gormod/Digon" (Plyci's Messy Maggie Mix) - 4:36
  6. "Dim Ond Ti Sydd Ar Ôl" (Mix Acoustic John Rea) - 4:41
  7. "93" (Mix Acoustic Nia Medi) - 3:05

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]