Susan Mendus

Oddi ar Wicipedia
Susan Mendus
Ganwyd25 Awst 1951 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethathronydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd yr Academi Brydeinig Edit this on Wikidata

Athronydd ac academydd Cymreig sy'n arbenigo mewn athroniaeth wleidyddol yw'r Athro Susan Lesley "Sue" Mendus, CBE , CBE, FLSW (ganwyd 25 Awst 1951). Mae hi'n athro emerita mewn Athroniaeth Wleidyddol ym Mhrifysgol Efrog.

Cafodd Susan Coker ei geni yn Abertawe, yn ferch i John a Beryl Coker.[1][2] Cafodd ei magu yn Waun Wen, Abertawe,[3] a chafodd ei haddysg yn ysgolion cynradd Waun Wen a Mynydd Bach.[2]

Astudiodd y clasuron ac athroniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan raddio yn 1973.[3] Ar ôl graddio, aeth i Neuadd yr Arglwyddes Margaret, Rhydychen am BPhil yn 1975. [4] [5]

Priododd hi ag Andrew Mendus a chymryd ei henw priod, Susan Mendus.[1][3]

Ym 1975, penodwyd Mendus yn ddarlithydd mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Efrog. Trosglwyddodd i'r Adran Wleidyddiaeth [6] ym 1986, a daeth yn Athro Athroniaeth Wleidyddol iddi yn 1995. Rhwng 1995 a 2000, hi oedd Cyfarwyddwr Rhaglen Astudiaethau Goddefgarwch Morrell ym Mhrifysgol Efrog. [7] Roedd yn Is-lywydd (Gwyddorau Cymdeithasol) yr Academi Brydeinig rhwng 2008 a 2012.

Mae Mendus yn Gymrodor Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae hi'n aelod o fyrddau golygyddol y British Journal of Political Science, y Journal of Philosophy of Education, a'r Journal of Applied Philosophy . [8]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Toleration and the limits of liberalism (Goddefgarwch a therfynau rhyddfrydiaeth) (1989)
  • Feminism and emotion: readings in moral and political philosophy (Ffeministiaeth ac emosiwn: darlleniadau mewn athroniaeth foesol a gwleidyddol) (2000)
  • Impartiality in moral and political philosophy (Didueddrwydd mewn athroniaeth foesol a gwleidyddol) (2002)
  • Politics and morality (Gwleidyddiaeth a moesoldeb) (2009)[9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "MENDUS, Prof. Susan Lesley". Who's Who 2016 (yn Saesneg). Oxford University Press. Tachwedd 2015. Cyrchwyd 30 Hydref 2016.
  2. 2.0 2.1 "Welsh Political Philosopher Honoured by Swansea Met" (yn Saesneg). Swansea Metropolitan University. 23 Gorffennaf 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-30. Cyrchwyd 19 Chwefror 2013.
  3. 3.0 3.1 3.2 Thomas, Geraint (1 Ionawr 2013). "Political philosopher gets CBE honour to think over". South Wales Evening Post (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 Chwefror 2013.
  4. "Witness Statement from Professor Susan Mendus" (PDF). Leveson Inquiry into the culture, practices and ethics of the press. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-03-23.
  5. "Prominent alumni". Lady Margaret Hall, Oxford. Cyrchwyd 30 November 2020.
  6. "Susan Mendus - Biography" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-10-10. Cyrchwyd 2022-12-24.
  7. "British Academy Fellows". The British Academy. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 March 2016. Cyrchwyd 19 February 2013.
  8. "Memberships". Professor Sue Mendus (yn Saesneg). Prifysgol Efrog. Cyrchwyd 19 Chwefror 2013.
  9. "British Library catalogue. Retrieved 30 November 2020". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-12-25. Cyrchwyd 2022-12-24.