Sundance (drama)
Gwedd
Drama Gymraeg yw Sundance gan Aled Jones Williams.[1]
Crynodeb o'r ddrama
[golygu | golygu cod]Mae'r ddrama'n ymwneud ag ymgais llanc ifanc i anghofio magwraeth boenus a dryslyd trwy ymgolli mewn ffilmiau cowboi.[2]
Perfformiadau
[golygu | golygu cod]Perfformiwyd y ddrama am y tro cyntaf yn 1999 gan Cwmni Theatr Bara Caws. Cyfarwyddwyd gan Ian Rowlands a’r actor oedd Jonathan Nefydd.[1] Llwyfannwyd y ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005, ac aeth cynhyrchiad o'r ddrama gan Theatr Genedlaethol Cymru ar daith yn 2006.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 Tri Dramodydd Cyfoes: Meic Povey, Siôn Eirian ac Aled Jones Williams Archifwyd 2022-09-15 yn y Peiriant Wayback – Traethawd doethuriaeth Manon Wyn Williams, Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor Hydref 2015
- 1 2 Sundance ar daithː Cowbois yn y meddwl. Adolygiadau Theatr ar wefan BBC Cymru. Adalwyd ar 09 Rhagfyr, 2020.