Sue Williams
Gwedd
Sue Williams | |
---|---|
Ganwyd | 1956 Redruth |
Dinasyddiaeth | Cymru Lloegr Cernyw |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd |
Gwefan | http://nomorepink.com/ |
Peintiwr sy'n byw a gweithio yng Nghymru yw Sue Williams (ganed 1956, Cernyw).[1]
Addysgwyd Williams yng Ngholeg Celf Caerdydd, gan gynnwys ennill Gradd Meistr mewn Celfyddyd Gain.[1]
Mae hi'n creu gwaith cyfrwng cymysg, sy'n sôn am ffeministiaeth, rhywioldeb, chwant a chenfigen.[2] Yn 2009 defnyddiodd Williams £20,000 o'r Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer creu mowldiau o ben-ôl merched. Roedd hyn yn rhan o brosiect ymchwil mwy i gyrff merched, ar ôl prosiect arall yn Simbabwe lle tynnwyd 150 o'i darluniau oddi ar waliau'r oriel oherwydd eu bod yn portreadu pen-ôl merched.[3]
Mae Williams yn Athro Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Abertawe,[4] ers 2014.
Mae Williams wedi ennill nifer o wobrau:
- Gwobr Cyngor Celfyddydau Cymru, 1982[2]
- Gwobr Oppenheim John Downes, 1993[2]
- Medal Aur am Gelfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2000.
- Ar restr fer yr Artes Mundi 2, 2006.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Sue Williams b.1956" (yn Saesneg). Art UK. Cyrchwyd 17 Awst 2024.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Sue Williams" (yn Saesneg). BBC Wales Arts. 11 Rhagfyr 2008. Cyrchwyd 17 Awst 2024.
- ↑ Price, Karen (11 Gorffennaf 2009). "Artist 'upset' at response to grant for buttock mouldings" (yn Saesneg). Wales Online. Cyrchwyd 17 Awst 2024.
- ↑ "New exhibition by acclaimed Wales-based artists to help re-establish independent gallery" (datganiad i'r wasg) (yn Saesneg). Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. 16 Chwefror 2024. Cyrchwyd 17 Awst 2024.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- No More Pink - wefan Sue Williams