Strollad Breizh
Jump to navigation
Jump to search
Plaid genedlaethol yn Llydaw yw Strollad Breizh (Ffrangeg: Parti Breton). Ei nôd yw Llydaw annibynnol o fewn Ewrop.
Ffurfiwyd y blaid yn 2002. Yn 2004, crewyd Askol, cynghrair o gynrychiolwyr etholedig Llydewig sy'n aelodau o'r blaid neu yn eu chefnogi, i weithio ar greu sefydliadau annibynnol yn Llydaw. Yn 2007 crewyd adain ieuenctid, Ar Vretoned Yaouank (Les Jeunes Bretons).