Streic Newyn Wyddelig 1981

Oddi ar Wicipedia

Daeth pum mlynedd o anghytuno rhwng carcharorion Gwyddelig, gweriniaethol â'r Awdurdodau i'w benllanw yn 1981 yn yr hyn a elwir yn Streic Newyn Wyddelig 1981. Ffrae ynghylch blancedi oedd asgwrn y gynnen - a hynny yn 1976 pan wrthododd Llywodraeth Lloegr roi 'Categori Statws Arbennig' i'r carcharorion gweriniaethol (y rhan fwyaf ohonynt yn aelodau o'r Byddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon IRA. Ar ôl llawer o ymosodiadau ar y carcharorion hyn, dechreuwyd protestio drwy daflu eu baw eu hunain ar waliau eu celloedd.

Yn 1980 aeth saith o'r carcharorion ar streic newyn, streic a ddaeth i ben ar ôl cyfnod o 53 diwrnod.[1]

Yn yr ail gyfres o streiciau newyn (yn 1981) cafwyd gwrthdaro gwleidyddiol drwy gyfrwng y cyfryngau torfol rhwng Prif Weinidog Gwledydd Prydain Margaret Thatcher â'r carcharorion. Safodd un ohonynt - Bobby Sands fel Aelod Seneddol a chipio'r sedd. Bu farw ef a naw arall yn ystod y cyfnod hwn gan ddenu llwyfan byd-eang i'w hachos.[2]

Rhaid cofio hefyd nad dyma brotest gwrthod bwyta cyntaf y gweriniaethwyr. Bu farw Argwlydd Faer Corc, Terence MacSwiney, ar streic newyn yng ngharchar Brixton yn Llundain ym mis Tachwedd 1920.

Dyma fanylion am y deg; eu henwau, cysylltiad militaraidd, dyddiad eu marwolaeth a hyd y streic newyn:

Enw Cysylltiad Militaraidd Cychwyn Streicio Dyddiad Marw Hyd eu Streic Rheswm dros eu Carcharu
Bobby Sands IRA 1 Mawrth 5 Mai 66 diwrnod Cario gwn
Francis Hughes IRA 15 Mawrth 12 Mai 59 dydd Nifer, gan gynnwys llofruddio milwr Prydeinig
Raymond McCreesh IRA 22 Mawrth 21 Mai 61 dydd Ymgais i lofruddio, cario gwn, aelodaeth o'r IRA
Patsy O’Hara INLA 22 Mawrth 21 Mai 61 dydd Cario 'hand grenade'
Joe McDonnell IRA 8 Mai 8 Gorffennaf 61 dydd Cario gwn
Martin Hurson IRA 28 Mai 13 Gorffennaf 46 dydd Ymgais i lofruddio, aelodaeth o'r IRA
Kevin Lynch INLA 23 Mai 1 Awst 71 dydd Dwyn gynnau
Kieran Doherty IRA 22 Mai 2 Awst 73 dydd Cario gynnau a ffrwydron
Thomas McElwee IRA 8 Mehefin 8 Awst 62 dydd Manslaughter
Michael Devine INLA 22 Mehefin 20 Awst 60 dydd Dwyn a chario gynnau

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. <http://cain.ulst.ac.uk/events/hstrike/chronology.htm
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-14. Cyrchwyd 2008-10-03.