Storïau'r Henllys Fawr
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig, gwaith llenyddol |
---|---|
Golygydd | T. Rowland Hughes |
Awdur | W. J. Griffith |
Cyhoeddwr | Gwasg Aberystwyth |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1938 |
Pwnc | Hiwmor Môn |
Argaeledd | allan o brint |
ISBN | 9780850881233 |
Tudalennau | 168 |
Genre | Straeon byrion |
Cyfrol o straeon byrion gan W. J. Griffith yw Storïau'r Henllys Fawr, a gyhoeddwyd gan Gwasg Aberystwyth yn 1938.
Cyhoeddwyd argraffiad newydd gan Gwasg Gomer a hynny yn 1975. Yn 2013 roedd y gyfrol allan o brint.[1]
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Dechreuodd W. J. Griffith ysgrifennu straeon byrion am ei fro enedigol, sef Aberffraw, Ynys Môn. Arferai darllen ei straeon yng nghymdeithas lenyddol Capel Aberffraw er mawr difyrrwch y gynulleidfa. Daeth yn gyfaill i'r newyddiadurwr ac awdur E. Morgan Humphreys a'i anogodd i gyhoeddi ei straeon yn Y Genedl Gymreig ac fe wnaeth hynny o 1924 hyd Nadolig 1930. Casglwyd a chyhoeddwyd y straeon hynny yn y gyfrol Storïau'r Henllys Fawr (1938), wedi'u golygu gan y nofelydd T. Rowland Hughes. Maent yn straeon doniol, llawn o fwrlwm y fro a brasluniau o gymeriadau ardal y Berffro.
Mae saith stori yn y casgliad:
- "Eos y Pentan"
- "Yr Hen Siandri"
- "Y Tri Chwt a'r Ugain Mochyn"
- "Antur y Ddrama"
- "Problem a Geiriau Croes"
- "Anturiaeth Ditectif"
- "Anti Lw"
Cafodd Storïau'r Henllys Fawr eu haddasu ar gyfer y teledu yn 1983 gan y dramodydd Gareth Miles a'u dangos ar S4C.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013