Steve Davies (gwleidydd)

Oddi ar Wicipedia

Mae Steve Davies yn Gynghorydd Sir Ceredigion Plaid Cymru dros ward Penparcau, Aberystwyth.

Ganwyd Steve yng Nghastell Nedd. Symudodd i Aberystwyth yn 1987 ac mae wedi magu ei ddau blentyn yn yr ardal. Mae'n gweithio ym Mhwerdy Dwr Rheidol i Gwmni Skatcraft.

Cafodd yrfa lwyddiannus fel chwaraewr rygbi amatur. Mae Steve wedi rhwyfo dros yr Iwerydd 6 gwaith fel rhan o ras "Celtic Challenge". Mae hefyd yn hyfforddwr rygbi a rhwyfo.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Safodd Steve fel Cyngorydd Sir a Chynghorydd Tref yn 2008, gan golli'r sedd Cyngor Sir o 14 o bleidleisiau. Daeth yn Gynghorydd Tref Aberystwyth - gwaith y bu yn ymgymryd yn llwyddiannus am y degawd diwethaf.

Yn 2012, enillodd Steve sedd Cyngor Sir gan ddod yn uchaf ar y rhestr gyda 370 o bleidleisiau.

Yn 2017, daeth Steve uchaf ar y rhestr eto gyda 354 o bleidleisiau.

Roedd Steve yn Maer Cyngor Tref Aberystwyth rhwng Mai 2017 a Ebrill 2018.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]