Steganographia

Oddi ar Wicipedia
Steganographia
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurJohannes Trithemius Edit this on Wikidata
Gwladyr Almaen Edit this on Wikidata
IaithLladin Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1606 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1499 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gansteganography Edit this on Wikidata
Prif bwncsteganography Edit this on Wikidata

Llyfr ar steganograffeg (negeseuon cudd) yw Steganographia, a ysgrifennwyd tua 1499 gan abad Benedictaidd a polymath o'r Almaen, Johannes Trithemius.

Ar yr olwg gyntaf, mae’n ymddangos fod y testun yn sôn am sêr-ddewiniaeth a syniadau ‘hudol’ aneglur. Honnwyd ei fod yn cynnwys, ymysg pethau eraill, ddull o anfon negeseuon cudd dros bellter mawr. Mae’n cynnwys traethodau hirion am wahanol ysbrydion ac angylion, gyda defodau a thablau o fformiwlâu 'hudol'. Fodd bynnag, mae'n ymddangos erbyn hyn nad oes unrhyw beth ‘hudol’ yn eu cylch. Mewn gwirionedd, mae’r rhestrau o rifau a llythrennau yn allwedd i ffurf glyfar o amgryptio, nad oedd wedi cael ei ddarganfod hyd y 1990au. Mae'n ymddangos fod Johannes Trithemius wedi dyfeisio ffurf gyntefig o’r un system amgryptio a ddefnyddiwyd yn nes ymlaen i greu'r Cod Enigma enwog yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[1]

Cafodd y gwaith yma ei drawsysgrifio yn 1591 gan John Dee.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Steganographia | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-06. Cyrchwyd 2020-05-22.