Neidio i'r cynnwys

SpynjBob Pantsgwâr (cymeriad)

Oddi ar Wicipedia
SpynjBob Pantsgwâr
Enghraifft o:anthropomorphic sea sponge, musical theatre character, cymeriad teledu, cymeriad animeiddiedig, cymeriad ffilm Edit this on Wikidata
CrëwrStephen Hillenburg Edit this on Wikidata
Lliw/iaumelyn Edit this on Wikidata
Deunyddsbwng Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/01b9tt edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

SpynjBob Pantsgwâr (Saesneg: SpongeBob SquarePants) yw'r prif gymeriad yn y gyfres animeiddiedig SpynjBob Pantsgwâr. Mae'n adnabyddus am ei optimistiaeth a'i ymddygiad plentynnaidd.

Yn y gyfres, SpynjBob yw prif gogydd y Crancdy, bwyty byrgyr eiddo Mr. Cranci yn nhref ffuglennol Pant-y-Bicini yn y Cefnfor Tawel. Mae'n byw mewn tŷ pîn-afal gyda'i falwen anwes Gari. Ei ffrind gorau yw Padrig Wlyb.

Yn fersiwn Saesneg gwreiddiol y gyfres, ei actor llais yw Tom Kenny. Yn y troslais Cymraeg, Dewi Rhys Williams sy'n ei leisio.

Crëwyd y cymeriad gan Stephen Hillenburg, artist ac addysgwr bioleg forol. Mae SpynjBob wedi dod yn gymeriad cartŵn poblogaidd ledled y byd ymhlith plant ac oedolion. Mae'n cael ei ystyried yn eang fel un o'r cymeriadau animeiddiedig gorau erioed.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]