Neidio i'r cynnwys

Soldier Blue

Oddi ar Wicipedia
Soldier Blue
Enghraifft o:ffilm Edit this on Wikidata
Lliw/iaulliw Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi12 Awst 1970, 25 Medi 1970, 30 Hydref 1970, 24 Rhagfyr 1970, 26 Rhagfyr 1970, 22 Ionawr 1971, 13 Chwefror 1971, 4 Mawrth 1971, 10 Ebrill 1971, 16 Ebrill 1971, 22 Ebrill 1971, 23 Ebrill 1971, 7 Mai 1971, 11 Mehefin 1971, 24 Mehefin 1971, 26 Ionawr 1972, 2 Medi 1972, 11 Medi 1972, Ionawr 1973, 8 Tachwedd 1973, 8 Gorffennaf 1976 Edit this on Wikidata
Genrey Gorllewin gwyllt, ffilm ryfel, ffilm ddrama Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithColorado Edit this on Wikidata
Hyd112 munud Edit this on Wikidata
Cyfarwyddwr/wyrRalph Nelson Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrGabriel Katzka Edit this on Wikidata
CyfansoddwrRoy Budd Edit this on Wikidata
DosbarthyddEmbassy Pictures Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
SinematograffyddRobert B. Hauser Edit this on Wikidata
SgriptiwrJohn Gay Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/02bd2b edit this on wikidata

Mae Soldier Blue yn ffilm Western Americanaidd a gynhyrchwyd yn 1970, wedi ei chyfarwyddo gan Ralph Nelson, sy'n adrodd hanes ffuglennol digwyddiadau yn 1864 seiliedig ar hanes gwir Cyflafan Sand Creek yn Nhiriogaeth Colorado, UDA.

Sgriptiwyd y ffilm gan John Gay yn seiliedig ar y nofel Arrow in the Sun gan Theodore V. Olsen, ac mae'n serennu Candice Bergen, Peter Strauss, a Donald Pleasence. Perfformiwyd y gân deitl gan Buffy Sainte-Marie.

Cynllun

[golygu | golygu cod]

Wedi ei rhyddhau ar anterth Rhyfel Fietnam yn erbyn cefndir y achos tribiwnlys milwrol yn deillio o Gyflafan My Lai, cyflwynodd y ffilm yr adroddiad sinematig cyntaf o un o'r digwyddiadau mwyaf drwgenwog yn hanes rhyfeloedd yr Unol Daleithiau ar bobloedd brodorol Gogledd America, pan gyflawnodd milwyr yn perthyn i filisia talaith Colorado dan arweiniad y Colonel John M. Chivington gyflafan yn erbyn pentref diamddiffyn o bobl Cheyenne ac Arapaho ar wastadeddau dwyreiniol Colorado. Lladdwyd rhai cannoedd o Indiaid, y rhan fwyaf ohonynt yn ferched, plant a henoed.

Mae hanes y gyflafan yn cael ei osod ar gefndir ffuglennol am hanes goroeswyr ymosodiad gan Indiaid ar uned o filwyr Marchoglu'r Unol Daleithiau.

Ffilm ddadleuol

[golygu | golygu cod]
Rhybudd mewn sinemau

Roedd y ffilm yn ddadleuol ar y pryd nid yn unig oherwydd ei phwnc fel revisionist Western, ond am ei phortread graffig iawn o drais. Aeth y cyfarwyddwr Nelson, sy'n ymddangos yn y ffilm ei hun, i lefelau newydd amlwg yn ei bortread o drais, gan ddangos golygfeydd o drais rywiol realistig ynghyd â golygfeydd brwydr sy'n dangos bwledi'n taro cyrff a merched a phlant yn cael eu cigyddu'n ddidrugaredd gan filwyr.

Credydau

[golygu | golygu cod]

Avco Embassy Pictures, 1970

Peter Strauss
Jorge Rivero