Snæfellsnes

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad y Penrhyn

MaeSnæfellsnes (IPA:ˈstn̥aiːfɛlsˌnɛːs) yn benrhyn yng ngorllewin Gwlad yr Iâ, i'r gorllewin o Borgarfjörður. Ystyr yr enw y "penrhyn mynydd eira" yn Islandeg.(snær = eira (snow yn Saesneg), fell = mynydd, fel y 'fells' yng ngogledd Lloegr, nes = penrhyn.

Dywed fod y penrhyn yn gynrychioladol o Wlad yr Iâ gan fod modd gweld gymaint o nodweddion yr ynys yno. Ceir llosgfynydd Snæfellsjökull yno, a ystyrir yn un o symbolau Gwlad yr Iâ; Mae'r llosgfynydd yn codi i uchder o 1446 m, a ceir rhewlif ar ei begon (ystyr jökull yw rhewlif). Ar ddiwrnod clir gellir gweld y llosgfynydd o'r brifddinas, Reykjavík - pellter o 120 km fel hed y frân. Mae'r mynydd hefyd yn adnabyddus i nifer fel lleoliad nofer enwog Journey to the Center of the Earth gan y Ffrancwr, Jules Verne. Mae'r ardal o gwmpas Snæfellsjökull wedi ei enwi'n un o bedwar Parc Cenedlaethol Gwlad yr Iâ.

Mae'r penrhyn yn un o'r prif leoliadau yn Saga'r Laxdœla saga a dyma, yn ôl y saga, oedd man geni yr aelod Gorllewin Norseg o Gard y Varangiaid, Bolli Bollasson. Ymysg pobl hanesyddol eraill bu'n byw yno yn ôl y saga oedd, Guðrún Ósvífursdóttir, Bolli Þorleiksson a Snorri y Goði.

Snæfellsjökull
Arnarstapi ar Snæfellsnes

Ar hyd arfordir gogleddol y penrhyn ceis pentrefi pysgota a threfi bychain gan gynnwys; Arnarstapi, Hellnar, Rif, Ólafsvík, Grundarfjarðarbær, a Stykkishólmur.

Ger Hellissandur ceir y strwythur uchaf yng ngorllewin Ewrop, mast radio hirdon, Hellissandur.

Ym Mehefin 2008, derbyniodd pobl Snaefellsnes dystysgrif statws cymuned EarthCheck am ddatblygu twristaieth cynaladwy.[1] Dyna'r gymuned gyntaf yng Ngwlad yr Iâ ac Ewrop a dim ond y pedwerydd yn y byd i dderbyn y dystysgrif.


Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Is EarthCheck community standard an effective sustainable tourism management tool? : a case study on Snæfellsnes Peninsula, Iceland http://hdl.handle.net/1946/9497