Slumdog Millionaire (ffilm)

Oddi ar Wicipedia
Slumdog Millionaire

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Danny Boyle
Cynhyrchydd Christian Colson
Ysgrifennwr Simon Beaufoy
Serennu Dev Patel
Freida Pinto
Anil Kapoor
Irrfan Khan
Cerddoriaeth A. R. Rahman
Sinematograffeg Anthony Dod Mantle
Golygydd Chris Dickens
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Fox Searchlight (UDA)
Pathé (rhyngwladol)
Dyddiad rhyddhau 12 Tachwedd 2008 (cyfyngedig)
Ionawr 2009 (India)
Amser rhedeg 120 munud
Gwlad Y Deyrnas Unedig
Iaith Saesneg
Hindi
Gwefan swyddogol

Mae Slumdog Millionaire (2008) yn ffilm ddrama a gyfarwyddwyd gan Danny Boyle ac a ysgrifennwyd gan Simon Beaufoy. Mae'r ffilm yn seiliedig ar y llyfr Q and A a ysgrifennwyd gan yr awdur a'r diplomydd Indiaidd Vikas Swarup. Dechreuodd Loveleen Tandan fel cyfarwyddwr castio'r ffilm ond yna cafodd ei apwyntio'n cyd-gyfarwyddwr gan Boyle.

Mae ffilm, a ffilmwyd yn yr India, yn adrodd hanes gŵr ifanc o slymiau Mumbai sy'n ymddangos ar sioe deledu. Gwnaiff yn llawer gwell na'r disgwyl ar y rhaglen, sy'n peri i gyflwynydd y sioe ac awdurdodau'r gyfraith ei amau.

Rhyddhawyd y ffilm i gynulleidfa gyfyng ar y 12fed o Dachwedd 2008 ar ôl i'r ffilm gael ei dangos yng Ngwyl Ffilmiau Telluride a Gwyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto. Derbyniodd y ffilm ganmoliaeth fawr a gwobrau niferus. Cipiodd y ffilm bum gwobr o'r chwech categori lle y cafodd ei henwebu yng Ngwobrau Dewis y Beirniaid (y Critics Choice Awards) ar yr 8fed o Ionawr, 2009. Cipiodd gategorïau y Cyfarwyddwr Gorau, Sgript Orau, Actor/Actores Ifanc Gorau, Cyfansoddwr Gorau a'r Ffilm Orau.

Yng Ngwobrau'r Golden Globes 2008, enillodd y ffilm bedair gwobr am y Ffilm Ddrama Orau, y Cyfarwyddwr Gorau (Danny Boyle), y Sgript Orau (Simon Beaufoy) a'r Sgôr Cerddorol Orau (A.R. Rahman). Rahman yw'r Indiad cyntaf i ennill Golden Globe am gyfansoddi cerddoriaeth i gyd-fynd â ffilm.[1] Cafodd y ffilm ei henwebu am 10 o Wobrau'r Academi gan ennill wyth ohonynt, gan gynnwys y Ffilm Orau. Roedd y ffilm hefyd yn ddadleuol oherwydd ei phortread o'r India a Hindwaeth yn ogystal â lles y plant a oedd yn actio ynddi.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan Hindu.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-10. Cyrchwyd 2009-01-12.
Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.