Siobhan Owen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Siobhan Owen
Ganwyd (1993-10-04) 4 Hydref 1993 (25 oed)
Llanfairpwllgwyngyll, Cymru
Galwedigaethcanwr, cerddor, telynor

Soprano a thelynores o Adelaide, Awstralia ydy Siobhan Owen (ganwyd 4 Hydref 1993). Cafodd Owen ei geni yng Ngogledd Cymru a bu'n byw mewn pentref bychan ar Ynys Môn, sef Llanfairpwllgwyngyll cyn symud i Awstralia.

Mae Owen wedi perfformio'n rheolaidd mewn gwyliau, cyngherddau a datganiadau o amgylch y byd. Mae hi'n ffafrio caneuon clasurol a Cheltaidd / gwerin, ond mae hefyd yn canu jazz ar adegau.