Silindr ffonograff
Math | audio storage device, storio data |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Silindrau ffonograff yw'r cyfrwng masnachol cynharaf ar gyfer recordio ac atgynhyrchu sain. Roedden nhw'n cael ei hadnabod fel "recordiau" pan oeddynt ar eu mwyaf poblogaidd (c. 1896–1915). Roedd gan y gwrthrychau silindrig hyn recordiad wedi'i ysgythru ar eu wyneb allanol, a oedd yn cael ei ail-gynhyrchu wrth eu chwarae ar ffonograff silindr mecanyddol.[1] Pan ddyfeisiodd Thomas Edison y ffonograff yn 1877, roedd ei recordiadau cyntaf sain y gellid ei adnabod ar ffoil tin oedd wedi'i rwymo o amgylch silindr metal.[2] Nid oedd ffoil yn gyfrwng ymarferol at ddibenion masnachol nac artistig, felly symudodd Edison ymlaen i ganolbwyntio ar olau trydanol a gadael i eraill ganolbwyntio ar dechnoleg sain.[3]
Ar ôl saith mlynedd o ymchwil ac arbrofi yn Labordy Volta, cyflwynodd Charles Sumner Tainter, Alexander Graham Bell a Chichester Bell gwyr fel cyfrwng recordio ac ysgythru, yn hytrach na rhicio fel dull recordio. Yn 1887, profwyd eu system "Graphophone" gan ohebyddion swyddogol Cyngres yr UDA, a chynhyrchwyd unedau masnachol yn ddiweddarach gan y Dictaphone Corporation.[4] Dechreuodd Edison weithio ar y ffonograff eto wedi i'w gynrychiolwyr ddangos y system hon iddo. Dewisodd silindr cwyr trwchus, can bod modd ei lyfnhau eto i'w ailddefnyddio. Trowyd y "Graphophone" a'r "Perfected Phonograph" gan Edison eu troi'n fasnachol yn 1888. Arwyddwyd cytundeb i rannu'r patent a chafodd silindrau cwyr Edison eu dewis o'r ddau fel fformat cyfnewidiadwy.[5]
Roedd y silindrau safonol tua 4 modfedd (10 cm) o hyd, 2¼ modfedd (5.7 cm) mewn diamedr, ac yn chwarae tua 2 funud (120 eiliad) o gerddoriaeth neu sain arall.[6] Gwella wnaeth ansawdd y silindrau gydag amser, on erbyn y 1910au, daeth recordiau disg yn fwy poblogaidd a chymryd lle'r silindrau fel y prif gyfrwng masnachol ar gyfer sain.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Aodhan Phipps (November 8, 2013). "History of Recorded Music". Transcript of History of Recorded Music. Prezi. Cyrchwyd 2018-01-12.
- ↑ "1877 Thomas Edison Cylinder Recorder". Mix Magazine. September 1, 2006. Cyrchwyd 2016-07-11.
- ↑ 3.0 3.1 Callie Taintor (May 27, 2004). "Chronology:Technology and the Music Industry". FRONTLINE the way the music died. Public Broadcasting Service. Cyrchwyd 2018-01-12.
- ↑
Steve Schoenherr (July 6, 2005). "Recording Technology History". Recording Technology History. University of San Diego. Archifwyd o'r gwreiddiol ar August 13, 2006. Cyrchwyd 2018-01-12. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Schoenherr, S. (1999) "Charles Sumner Tainter and the Graphophone" (via the Audio Engineering Society). Retrieved 2014-05-04.
- ↑ Russ Orcutt (September 7, 2017). "13) All About The Records". 45 Record Adapters. 45 Record Adapters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-13. Cyrchwyd 2018-01-12.