Shiba
Gwedd
| Enghraifft o: | brîd o gi |
|---|---|
| Math | Japanese dog |
| Gwlad | Japan |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/077hh |
| Quora | Shiba-inu |

Ci sbits sy'n tarddu o Japan yw'r Shiba. Y Shiba yw'r hynaf a'r lleiaf o fridiau cŵn Japan, sydd yn addas fel ci gwarchod.[1][2]
Deillia'r enw Shiba, neu Shiba Inu ("ci" yw ystyr Inu yn y Japaneg) o'r 1920au. Mae gan y gair Shiba ddau ystyr: "prysglwyni" a "bach". Yn ôl rhai mae'r enw yn cyfeirio at fedr y ci hwn wrth fynd trwy brysglwyni, ond yn ôl eraill "ci bach" yw ystyr syml yr enw.[2]
Bu'r Shiba bron yn diflannu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Daw'r Shiba ers hynny o dair llinach: y San In Shiba, y Mino Shiba, a'r Shin Shu Shiba.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Shiba Inu. Animal Planet. Adalwyd ar 17 Medi 2014.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Shiba Inu: History. American Kennel Club. Adalwyd ar 17 Medi 2014.