Sgwrs Wicipedia:Y Ddesg Gyfeirio

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Newydd ailwampio[golygu cod]

Dwi newydd ailwampio'r Ddesg Gyfeirio. Pe allwch chi i gyd fynd ati i greu y mewn-ddolenni (y dolenni cochion), fe fyddai'n grêt a help mawr! -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 23:55, 2 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Yng nghyd-destun y nifer fechan o ddefnyddwyr yma, mae'n anaddas rhannu'r ddesg gyfeirio mewn adrannau yn fy marn i. Ddylai pethau ddim fod yn gyfieithiadau union o'r tudalennau cyfatebol Saesneg, eithr yn addas i'n wici bach. Dwi'n awgrymu cyfuno nhw. (Mae'r is-dudalennau i gyd yn edrych yn neis gyda'r eiconau ayb, ond maen nhw i gyd yn wag!) Peredur ap Rhodri 19:51, 11 Ebrill 2011 (UTC)[ateb]
Nid jyst ar gyfer defnyddwyr cyfredol, rheolaidd, ond darllenwyr newydd hefyd. Mae hwn yn lle iddynt ofyn cwestiynau - nid y Caffi. Dwi ddim yn gweld pam nad ydynt yn gallu dilyn en - mae eu Desg Gyfeirio nhw yn arbennig o dda, ac mae ein desg ni yr un safon. Ar hyn o bryd, gall defnyddwyr neidio o bwnc i bwnc yn hawdd gan chwilio am ateb (os bu un yn barod). Os oedd tudalen yn unig gennym (fel y Caffi), mae'n anodd gwneud y fath beth. Mae'r is-bynciau i gyd yn wag oherwydd nad yw neb wedi gofyn cwestiwn penodol eto... -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 20:40, 11 Ebrill 2011 (UTC)[ateb]
Diolch am eich (dy?) ateb. Ond y rheswm pam is-rannir y tudalennau ar y seit Saesneg ydy y byddai gormod o draffig ar gyfer tudalen sengl. Yn yr un modd, maen nhw wedi rhannu eu Caffi ("Village Pump") ym mhum adran, ond dydy hynny ddim yn golygu y fyddai rhannu ein Caffi ein hunain yn syniad da. Tybed bod y tudalennau gwag yn cadw darllenwyr newydd rhag ofyn cwestiynau yma. Peredur ap Rhodri 21:35, 11 Ebrill 2011 (UTC)[ateb]
Mae'n edrych yn dda; gobeithio y caiff ei ddefnyddio. Un cwestiwn pitw: a oes angen y blwch chwilio ddwywaith? Llywelyn2000 05:13, 13 Ebrill 2011 (UTC)[ateb]
Mae'r un ar frig y dudalen yn chwilio erthyglau Wicipedia, ac mae'r un yn y nodyn yma yn chwilio'r atebion a bostwyd :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 07:28, 13 Ebrill 2011 (UTC)[ateb]
Diolch. Mae'r un yn y nodyn yma'n dweud "Chwilio Wicipedia:" yn hytrach na "Chwilio'r Atebion". Llywelyn2000 21:49, 13 Ebrill 2011 (UTC)[ateb]
Na, ti sy'n iawn - mae'r blwch YN chwilio Wicipedia yn hytrach na'r atebion eu hunain. Caf i wated a fe nawr! Fy nghamddealltwriaeth i! -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 08:33, 14 Ebrill 2011 (UTC)[ateb]

Cynnig DILEU'r adran yma.[golygu cod]

Cynnig DILEU'r adran yma. Does neb erioed wedi'i defnyddio! John Jones2 (sgwrs) 12:07, 10 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]

Eto, mae angen trafod gyntaf. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 16:38, 10 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]

Hi valued community, pleasse have a look at this request. Is there a solution to this? Unfortunately my knowledge of the Welsh language is next to nill, hence comments in English would be highly appreciated. Thank you for your time. Lotje (sgwrs) 12:24, 27 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]