Sgwrs Nodyn:Gwybodlen Iaith

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Beth am newid 'Rheolir gan' i 'Asiantaeth iaith' / 'Corff gweinyddol' neu rywbeth tebyg? (Neu 'Asiantaeth iaith|Rheolir gan'?). Mae'n sefyll allan mewn coch ar hyn o bryd a dydi o ddim yn gwneud llawer o synnwyr. Anatiomaros 14:31, 14 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Cytuno. Asiantaeth iaith sydd orau gen i ond dim ond o fymrym. Lloffiwr 22:18, 14 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Ia, mae'n anodd taro ar yr enw iawn gan fod y sefyllfa'n amrywio o wlad i wlad, mae'n siwr. Beth yw ein 'Bwrdd Iaith' bach ni, er enghraifft? O ran hynny efallai fod 'Bwrdd iaith' yn well? Anatiomaros 22:35, 14 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Rwyf yn eistedd fan hyn yn crafu mhen go iawn! Bwrdd Iaith yn taro'n iawn. Falle mai newid yr enw pan fydd cyd-destun y wlad yn galw yw'r peth gorau i wneud. Lloffiwr 23:13, 15 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]
Yn niffyg cynigion a hefyd am fy mod wedi cael llond bol o weld y ddolen goch "Rheolir gan" (!) dwi am newid hynny i Corff rheoli iaith er mwyn creu eginyn. Bydd yn ddigon hawdd newid yr enw yn nes ymlaen, ac yn wir efallai bydd creu'r eginyn yn ysgogi diddordeb? Anatiomaros 17:23, 4 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Dosbarthiad genetig[golygu cod]

Mae'r term dosbarthiad genetig yn ymadrodd eithaf trwsgl. Beth am alw hwn yn 'achrestr ieithyddol'? Mae'n cyfleu beth sydd ei angen ac yn llai sych academaidd. Lloffiwr 18:52, 25 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Wedi mentro newid i achrestr ieithyddol. Lloffiwr 21:49, 24 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]

Ailwampio[golygu cod]

Mae'r gwybodlen hwn yn edrych yn ddigysgod iawn. Oes modd ailwampio fe (a gwybodlenni eraill) fel yr un sydd ar EN? -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau

Dydy o ddim yn drawiadol iawn, mae'n sicr. Y broblem efo ailwampio gwybodlenni ydy'r geiriau; os ydy un o'r "paramedrau", e.e. 'Siaradwyr iaith gyntaf:' yn cael ei newid o gwbl bydd rhaid wneud yr un newid ar bob tudalen lle ceir y wybodlen (ugeiniau lawer!). Ond os medri di ychwanegu dipyn o liw a steil mae croeso i ti wneud hynny, wrth gwrs. Anatiomaros 21:30, 4 Mai 2010 (UTC)[ateb]
ON Ar ôl gweld be dwedais yn yr adran uchod - am newid 'Rheolir gan'(!) - dyna pam wnes i ddim newid o: gormod o hasl! Mae gwir angen bot yma i wneud gwaith llafurus a diflas o'r fath. Anatiomaros 21:33, 4 Mai 2010 (UTC)[ateb]
(Ond mae 'na ffordd i osgoi hynny yn yr achos yma: gweler hyn). Anatiomaros 21:39, 4 Mai 2010 (UTC)[ateb]
Bydda i'n meddwl am dipyn wedyn dod yn ôl. Un o'r pethau mwyaf "hyll" yw'r testun ei hun - dyw "Times New Roman" ddim yn foddhaol yn esthetaidd, dydy?! Ha. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 21:46, 4 Mai 2010 (UTC)[ateb]
Mae'n iawn yn ei le, ond mae o braidd yn ddiflas o ddiddychymyg hefyd. Cofia dydy pob ffont ddim yn gweithio'n dda efo acenion hefyd - dyna unig fantais TNR efallai. Y peth gorau i'w wneud ydy arbrofi a gwirio'r effaith mae'n cael: digon hawdd dadwneud unrhyw newid. Anatiomaros 21:59, 4 Mai 2010 (UTC)[ateb]

Bellach mae gennym Nodyn:Gwybodlen iaith sy'n hollol newydd ac yn edrych yn well - gweler Cymraeg am enghraifft. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 21:56, 3 Ebrill 2011 (UTC)[ateb]